google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Jess Fishlock yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol

Mi oedd ‘na rywbeth arbennig am Fishlock o’r dechrau.

Fe ddechreuodd ei gyrfa gyda chlwb merched Caerdydd, sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gwalia United – gan chwarae i’r tîm cyntaf pan yn 15 oed.

Ar ôl bod yn gapten ar dîm dan 19 Cymru, fe enillodd ei chap cyntaf i’r prif dîm yn erbyn Y Swistir yn 2006.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach fe ymunodd â chlwb AZ Alkmaar – hi oedd y chwaraewr cyntaf o Gymru i chwarae’n yr Eredivisie, sef prif gynghrair Yr Iseldiroedd.

Fe dreuliodd gyfnod yn Awstralia gyda Melbourne Victory, cyn symud i Seattle Reign yn yr Unol Daleithiau yn 2013 lle mae wedi datblygu i fod yn seren fyd-eang.

Mae hi wedi cael cyfnodau i ffwrdd ar fenthyg gyda sawl clwb – gan ennill Cynghrair y Pencampwyr gyda Frankfurt a Lyon – ond Seattle yw ei chartref ers 12 mlynedd bellach.


BBC News

Advertisements

See also  Cerdded milltiroedd i godi arian i wledydd tlawd

Check Also

United Rugby Championship: Contest for Wales selection heats up as Ospreys and Scarlets win

Scarlets were staring down the barrel when trailing 21-7 at half-time against Benetton, and it …

Brian Barry-Murphy: Cardiff not good enough in Blackburn Rovers defeat

After that disappointing opening 45 minutes at Ewood Park, Barry Murphy felt his side created …

Bangor worker paralysed after falling 30ft wins £10m from employer

The Cheshire-based firm was fined £240,000 at a magistrates’ court hearing in 2024 over the …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime