google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Jak Jones drwodd i rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd

Mae’r Cymro Jak Jones drwodd i rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd ar ôl curo Stuart Bingham 17-12 yn y Crucible yn Sheffield.

Y cyn-bencampwr Bingham oedd y ffefryn, gyda Jones yn rhif 44 ar restr detholion y byd.

Ond fe lwyddodd y gŵr o Gwmbrân i ddal ei afael ar ei fantais yn y sesiwn olaf a sicrhau ei le yn y ffeinal.

Os yn fuddugol, Jones fydd y chwaraewr cyntaf i ddod yn bencampwr byd ar ôl dod drwy’r rowndiau rhagbrofol ers Shaun Murphy yn 2005.

Y Cymro diwethaf i wneud hynny oedd Terry Griffiths yn 1979.

Bydd Jones, 30, yn wynebu Kyren Wilson yn y rownd derfynol ddydd Sul, gyda’r sesiwn agoriadol i ddechrau am 13:00.


Source link

Advertisements

See also  Police search for missing Cardiff mum Destiny Darkhill and her baby

Check Also

Dyn, 61, wedi'i gyhuddo o lofruddio menyw, 47, ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae dyn 61 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio menyw 47 oed ym Mhen-y-bont ar Ogwr. …

Aeron Pughe a’r ŵyl sy’n dathlu canu gwlad ym Machynlleth

Dywed Aeron bod pobl efallai’n cael y syniad anghywir o ganu gwlad, ac bod eu …

Celtic Cup: Paul Berry names Wales squad for Scotland contest

Wales men’s head coach Paul Berry has named his 19-man squad for Saturday’s Celtic Cup …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime