google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Jack Evans o’r Bala: Arwr cynnar pêl-droed Cymru a Chaerdydd

Advertisements

Wedi dechreuad y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914 bu rhaid i Jack Evans fynd i ymladd, ynghyd ag wyth o chwaraewyr eraill o Glwb Dinas Caerdydd, a chwe chyn-chwaraewr.

Lladdwyd un o’i gyd-chwaraewyr, Tom Witts, ddeuddydd yn unig cyn y cadoediad.

Yn 1925 fe gyrhaeddodd Caerdydd rownd derfynol Cwpan FA Lloegr, dan gapteniaeth un arall o fawrion y clwb, Fred Keenor. Ond Sheffield United oedd yn fuddugol, o 1-0.

Yn 1927 roedd Caerdydd unwaith eto yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr. Ond y tro hwn fe enillodd Caerdydd, gan guro Arsenal mewn gêm sy’n cael ei ystyried gan gefnogwyr y clwb fel eu buddugoliaeth enwocaf. Yn anffodus fe ddaeth y fuddugoliaeth y tymor wedi i Evans adael y clwb.

Roedd Evans gyda Chaerdydd o 1910 i 1926, ac er i’w gyfnod yn y rhyfel darfu ar ei yrfa bêl-droed, fe chwaraeodd yn agos i 400 o gemau dros yr Adar Gleision ac yn ffigwr allweddol wrth iddynt ennill dyrchafiad i Adran Gyntaf Lloegr.

Chwaraeodd ei ddwy flynedd olaf o bêl-droed gyda Bristol City cyn ymddeol yn 1928, yn 39 oed.


BBC News

See also  Cyn-fyfyriwr yn rhybuddio pobl ifanc am sepsis wedi profiad trawmatig

Check Also

Ystyried hollti ysgol uwchradd Gymraeg yn ddwy yn sgil pryderon ariannol

Tra bod nifer o opsiynau wedi eu hystyried, mae’r adroddiad yn dweud y byddai rhai …

Public consultation launched on plans for new Welsh renewable energy company

The company would not “replace existing energy suppliers or directly set household electricity prices”, it …

Cardiff man hit with ‘death tax’ after inheriting mother’s home

A bereaved man says he has been hit with a “death tax” after inheriting his …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime