google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , October 28 2026

Iwan Steffan: ‘Gwerthfawrogi pobl’ ar ôl colli Mam pan yn ifanc

5494c0a0 21d9 11f0 92b9 077bb78fcf51.jpg

Mae’r cyflwynydd Iwan Steffan wedi dweud bod colli ei fam pan oedd o’n 13 oed wedi gwneud iddo werthfawrogi’r bobl sydd yn ei fywyd.

Er ei fod wedi bod drwy sawl cyfnod gwahanol o alaru, mae o bellach yn ceisio cael agwedd mwy positif tuag at y profiad “erchyll” a bod yn hapus er parch i’w fam.

Wrth siarad ar raglen Beti a’i Phobol ar BBC Radio Cymru dywedodd: “Mae’n rhaid i ni weld yr harddwch yn bob dim ac wrth gwrs ar y pryd roedd mynd trwy hynny – does ‘na ddim geiriau i ddeud am hynny.

“Ond er bod o’n erchyll mynd trwy hynny’n 13 oed, rŵan fel oedolyn dwi wir yn gallu delio efo unrhyw beth.

“Felly os mae ‘na golled rŵan – achos ‘da ni’n mynd trwy colledion trwy’n bywyd ni i gyd – dwi’n gallu delio efo fo achos dwi wedi mynd trwy rywbeth gwaeth.

“Er wnaeth [colli Mam] gymryd i ffwrdd gymaint, roedd o’n rhyw fath o rodd hefyd achos mae o wedi ‘neud i fi werthfawrogi pobl yn fy mywyd ac mae o wedi ‘neud fi allu delio efo unrhwybeth achos bydd dim byd yn gallu bod mor ddrwg â hynny.”


BBC News

Advertisements

See also  Wales line up ex-Scotland full-back Peter Murchie for defence coach role

Check Also

Cynghorydd sir yn un o dri yn ddieuog o gyhuddiadau twyll bridio cŵn

Mae tri o bobl wedi eu cael yn ddieuog o fod yn rhan o dwyll …

Cynghorydd sir yn un o dri yn ddieuog o gyhuddiadau twyll bridio cŵn

Mae tri o bobl wedi eu cael yn ddieuog o fod yn rhan o dwyll …

Osian Pryce: ‘Mae’n od bod Elfyn yn Bencampwr y Byd a fi’n Bencampwr Prydain’

Mae Osian Pryce o Fachynlleth wedi cipio tlws Pecampwriaeth Rali Prydain Motorsport UK am yr …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime