google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , October 28 2026

Is-orsaf trydan 30 erw yn Sir Gâr yn ‘rhy fawr’

Dywedodd National Grid bod ganddyn nhw “ddyletswydd gyfreithiol i gysylltu cwsmeriaid â’n rhwydwaith pan ofynnir am gysylltiad” a bod y newid at ynni adnewyddadwy ynghyd â chynnydd yn y boblogaeth “yn golygu bod mwy o alw ar ein rhwydwaith i gysylltu ffynonellau ynni newydd â chwsmeriaid”.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y cwmni “bod astudiaethau wedi clustnodi’r safle fel yr un mwyaf addas” ac roedd presenoldeb llinellau trydan uwchben yn “lleihau’r angen” am beilonau newydd.

Mae angen yr is-orsafoedd hyn i “helpu i gwrdd â’r galw am drydan,” yn ôl National Grid, “yn ogystal â chefnogi targedau sero net Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i roi pŵer ynni gwyrdd i bob cartref a busnes erbyn 2035”.

Dywedodd llefarydd ar ran Green Gen Cymru y bydd eu his-orsaf 132kv yn cysylltu prosiectau ynni adnewyddadwy yn Nant Mithil, Aberedw, Bryn Gilwern a Lan Fawr gyda’r rhwydwaith trydan.

Mae cyd-leoli’r is-orsaf drws nesaf i safle’r National Grid yn “lleihau’r angen am dir” yn ôl y cwmni, ac mae’n bosib cysylltu gyda “phrosiectau ynni adnewyddadwy eraill yn yr ardal”.

Fe fydd National Grid yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus am eu cynlluniau yn ddiweddarach eleni a doedden nhw ddim am gael eu holi cyn dechrau’r ymgynghoriad hwnnw.


Source link

Advertisements

See also  Gaza: 'Llawer o'r plant heb ysgol, heb deulu na dyfodol'

Check Also

What does the Budget mean for the people of Wales?

Chancellor John Healey has set out the government’s tax and spending plans in his Budget, …

Ben Davies: Wales and Spurs star crossing the divide to FAW boardroom

It’s a break for lunch. Pointing enthusiastically at the now-empty boardroom, FAW president Mike Jones …

Cynghorydd sir yn un o dri yn ddieuog o gyhuddiadau twyll bridio cŵn

Mae tri o bobl wedi eu cael yn ddieuog o fod yn rhan o dwyll …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime