google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Huw ‘Fash’ Rees: Ffrogiau, Heno a iechyd

Advertisements

“Mae fy iechyd i’n iawn heddiw”, meddai Huw.

“Mae hwn yn rhywbeth oesol, ble os na cha i transplant fydda i ar y dialysis am byth, felly mae angen ei wneud yn rhywbeth sy’n rhan o fywyd bob dydd.

“Dyna pam mae cau’r siop wedi bod yn benderfyniad mor bwysig – mae angen amser nawr i fi fy hun, ac i ddewis i wneud pethe eraill hefyd. Ni wedi bod yna 16 o flynydde felly ni ‘di cael good run am ein harian.

“Dydy’r penderfyniad i gau’r siop ddim am fy ngwella i o’r cyflwr, ond mi fydd o’n well i fy iechyd i. Ambell i fore pan ti’n dod oddi ar y peiriant (dialysis) ti’n teimlo’n iawn, a dyddie eraill ti’n teimlo’n drained, ac felly’n her i gofio beth mae pawb eisiau o ryw wisg benodol. Felly, fi moyn gadael pan ni dal yn cynnig gwasanaeth o’r safon orau, do’n i ddim isho dim byd i slipio.

“O’n i ddim moyn gwerthu’r siop achos fy enw i sydd ar y siop, a dwedodd fy nhad wrtha i pan nes i agor y siop ‘beth yw gwerth dy enw di?’, a does dim cuddio tra bo’ch enw chi sydd ar flaen y siop.

“Ges i gynigion i brynu a buddsoddi yn y siop, ond beth o’n i’n poeni oedd bod rhywbeth yn mynd o’i le efo’r siop ar ôl fi adael a bod fy enw i dal ar yr arwydd – dyna pam ‘nes i benderfynu bydde’n well cael clean break.

“Mae’r staff yn gwybod ers tri mis felly gafon nhw chwe mis o rybudd, ac maen nhw am ailhyfforddi i swyddi eraill, felly mae pawb yn gadael efo meddylfryd eitha’ positif – bydd neb yn crio wrth y drws wrth ni adael a bydd parti mawr pan ni’n cau ym mhenwythnos olaf mis Mawrth!”

Ond mae Huw yn deud bod dim bwriad i adael y sioe Heno.

“Na, fi wrth fy modd yn gwneud y stwff teledu ac mi fydda i ar y sioe cyn hired ac maen nhw eisiau fi ‘ma!”


BBC News

Views: 0

See also  Pam fod cynnal y Tour de France mor bwysig i Gymru a Geraint Thomas?

Check Also

WRC: Elfyn Evans extends championship lead as Thierry Neuville wins Rally de Portugal

The organiser of Rally de Portugal, Automovel Club de Portugal (ACP), has been given a …

Ex-Tory Senedd leader Paul Davies wants to become Llywydd

Paul Davies needs backing from Plaid Cymru or Reform to become the first Conservative in …

Cyhoeddi rhestr fer Llyfr y Flwyddyn Cymraeg 2026

Mae enwau’r cyfrolau sydd ar Restr Fer Gwobr Llyfr Cymraeg y Flwyddyn am 2026, wedi …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Making digital tools accessible for everyone.