google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Honiadau yn erbyn Neil Foden ‘yn wir’, medd merch

Awgrymodd bargyfreithiwr Mr Foden, Duncan Bould, i’r ferch, sy’n cael ei adnabod yn yr achos fel Plentyn E, “nad yw’n wir” ei bod wedi cael profiadau rhywiol cyson gyda’r diffynnydd.

Gwadodd hynny, ond fe gytunodd na ddywedodd wrth unrhyw un am y peth ar y pryd.

“Doeddwn i methu,” dywedodd. “Doedd o ddim yn berthynas y byddai’n cael ei gweld yn un derbyniol.”

Dywedodd y ferch y byddai hi a Mr Foden yn trafod eu bywydau personol, a’u bod wedi mynd ar sawl drip gyda’i gilydd gan aros mewn sawl gwesty .

Awgrymodd Mr Bould, er ei bod wedi bod i rai o’r un llefydd y tu hwnt i Wynedd â Mr Foden, doedden nhw heb fynd i’r llefydd hyn gyda’i gilydd.

“Eto, mae hynny’n anghywir,” atebodd.

Dywedodd Plentyn E y byddai’n dweud wrth ei theulu ei bod rywle arall pan roedd hi’n mynd i ffwrdd gyda Mr Foden.


Source link

Advertisements

See also  'Trawma' disgyblion o weld trywanu Ysgol Dyffryn Aman

Check Also

Off Campus star collaboration ‘gave me chills’, says Babydoll singer

The singer behind the TikTok viral hit Babydoll says collaborating with an Off Campus star …

Flintshire: Nurse who stole £750,000 from vulnerable 99-year-old struck off

A nurse who stole £750,000 from a vulnerable 99-year-old and spent the money on cosmetic …

Carcharu cyn-dditectif am rannu gwybodaeth gyfrinachol gyda ffrind

Mae cyn-dditectif wedi cael ei charcharu am rannu gwybodaeth gyfrinachol yr heddlu gyda ffrind. Fe …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime