google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Honiad prentisiaethau Llafur ddim wedi’i ‘gefnogi gan ddata trylwyr’

Advertisements

Nid yw honiad y Prif Weinidog Eluned Morgan fod Llafur wedi curo targed i greu prentisiaethau wedi’i “gefnogi gan ddata trylwyr” a gellid ei ystyried yn “ddewis a dethol data”, meddai’r corff gwarchod ystadegau.

Mae rhai wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am gynnwys prentisiaid sy’n gadael lleoedd hyfforddi o fewn wyth wythnos.

Byddai’r prentisiaid hynny wedi cael eu heithrio o’r “mesur ‘trylwyr’ sefydledig”, yn ôl Penny Young, cadeirydd dros dro Awdurdod Ystadegau’r DU.

Yn etholiad diwethaf y Senedd ym mis Mai 2021, addawodd Llafur 125,000 o brentisiaethau, cyn lleihau’r addewid i 100,000 yn 2024.

Ym mis Chwefror, dechreuodd gweinidogion – gan gynnwys y prif weinidog – ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi curo’r targed 100,000.

Mae’r honiad yn seiliedig ar “wybodaeth reoli” ddiweddar sy’n cynnwys pawb sy’n dechrau prentisiaeth.

O dan y mesur mwy trylwyr, gan eithrio’r rhai sy’n gadael cyn wyth wythnos, dim ond 92,800 o brentisiaethau fyddai wedi cael eu cyfrif pan wnaeth y prif weinidog ei honiad ym mis Chwefror.

Cyhuddodd pleidiau eraill y llywodraeth o “symud pyst y gôl” am newid y data y mae’n ei ddefnyddio.

Pan ofynnwyd iddi pryd y dechreuodd ddefnyddio gwybodaeth reoli, dywedodd y llywodraeth wrth BBC Cymru fod gweinidogion wedi adolygu’r ddarpariaeth prentisiaethau yr hydref diwethaf “fel rhan o’r flaenoriaeth ehangach ‘mwy o swyddi'”.


BBC News

Views: 2

See also  Garden City toddler not seen by child protection staff before death

Check Also

Ysgol Charlotte Church yn wynebu cau ar ôl agor heb ganiatâd cynllunio

Nod The Awen Project yw rhoi amgylchedd i blant “lle maen nhw’n teimlo eu bod …

Charlotte Church forest school could close over fears for the environment

A forest school set up by singer Charlotte Church on a former pig farm might …

Two in court accused of trafficking teens to Thailand as drug couriers

Two people accused of trafficking teenagers to Thailand as part of an international drug ring …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
elfbar elfliq with 20 mg/ml nicotine.