google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Helpu tîm seiclo Awstralia i ennill aur yng Ngemau Olympaidd 2032

Er ei fod yn mwynhau ei waith gyda British Cycling ac wedi prynu tŷ yn ardal Manceinion gyda’i bartner roedd y swydd yn apelio.

Meddai: “Nesh i feddwl waeth i fi drio amdani, mae’n beth da dangos diddordeb – ac alla i bob tro ddeud na. A do’n i ddim yn meddwl baswn i’n cael cynnig y swydd – ond mi nesh i.

“Nesh i siarad efo fy rheini a fy mhartner a ffrindiau ac roedd pawb yn deud ‘go for it’ – tydi’r cyfleoedd yma ddim yn dod fyny yn aml, yn enwedig efo Awstralia’n paratoi at Gemau Olympaidd 2032 yn Melbourne.

“Fydd o’n grêt gallu bod yn rhan o hynny. Mae o hefyd yn rhywbeth i’w roi ar fy CV os ydw i isio job yn rhywle arall rhywbryd.

“Mae’r job union ‘run fath â be’ dwi’n ‘neud rŵan ond fydda i’n gweithio efo’r tîm trac endurance, dim sprint.

“Dwi’n nabod eitha’ lot o’r tîm yn barod. I fi mae’r bobl dwi’n gweithio efo nhw yn bwysig iawn ac roedd ‘nabod nhw, a gwybod bod nhw’n bobl iawn, yn help i fi wneud y penderfyniad i fynd amdani.”

Felly’r bwriad ydi symud yno ddiwedd Mawrth, gyda’i bartner yn ymuno ag o ymhen blwyddyn.

Meddai: “Dwi a fy mhartner yn 30 blwyddyn nesa ac roedda ni wedi sôn am fynd i deithio i Awstralia a Seland Newydd i ddathlu – ond rwan fydda i’n byw yna.

“Faswn i’n licio aros tan o leia’r Gemau Olympaidd yn 2032, ac wedyn… pwy a ŵyr.”


BBC News

Advertisements

See also  Agent arrested after Premier League footballer threatened with a gun

Check Also

Burnham’s devolution plan won’t work in Wales, ex-minister says

Former Welsh local government minister Alun Davies told Radio Wales Breakfast on Monday he was …

John Lewis – ‘un o gewri byd cyhoeddi Cymru’, wedi marw

Yn ystod cyfweliad ar Beti a’i Phobol yn 2012, bu John Lewis yn sôn am …

Protest yn Sir Gâr wrth i gyngor gytuno i ymgynghori ar gau ysgolion

Yn ôl Mair Morgan, sydd ymhlith sawl cenhedlaeth o gyn-ddisgyblion Ysgol Bancffosfelen, mae yna “siom …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime