google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , October 21 2026

Haf Thomas: edrych nôl ar gasglu £60,000 at achosion da

Ar ôl casglu bron i £60,000 i elusennau mae Haf Thomas yn wyneb cyfarwydd i nifer, ond nawr bydd mwy yn dod i wybod am ei haelioni a’i bywyd diolch i’w hunangofiant newydd.

Ac mae ei holl lwyddiannau hyd yn oed yn fwy o gamp o ystyried y darlun negyddol iawn am ei dyfodol gafodd ei rhieni pan anwyd hi gyda syndrom Down.

Roedd hynny yn 1971, ac Irfon ac Ann Thomas wedi cael gwybod gan arbenigwr meddygol y gallai eu plentyn cyntaf fod yn ei chlytiau tan hyd at wyth oed, ac yn gorfod cael help i fwydo tan yn 10.

Ond ddigwyddodd hynny ddim ac mae 189 o dudalennau ei hunangofiant yn dweud stori wahanol iawn.

Mae wedi gweithio i’r cyngor sir am bron i dri degawd, cael ei derbyn i’r Orsedd, canu mewn côr a chasglu degau o filoedd i achosion da – gan nofio milltir ar un achlysur. Mae nawr wedi sgwennu hunangofiant sy’n edrych yn ôl dros y cyfan – felly beth sy’n sefyll allan?

“Mae’n anodd gwybod be’ i ddweud,” meddai Haf. “Ond dwi mor falch mod i wedi gallu gwneud y llyfr.”


Source link

Advertisements

See also  Cyngor Sir Gâr i ystyried cynlluniau posib i gau rhagor o ysgolion

Check Also

Rugby League World Cup: Amberley Ruck to miss brother’s wedding to represent Wales

Even though Buck, 32, like all her team-mates are playing at a Rugby League World …

Anna Morris: World champion’s medical career still ‘on pause’ for Olympics

After years of dominance, it has felt like the rest of the world has caught …

Tributes paid to Caerphilly man who died during Cardiff Half Marathon

The family said Ross had trained for the half marathon with “commitment, enthusiasm and careful …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime