google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gwyntoedd cryf Storm Ashley i daro’r gogledd orllewin

Mae disgwyl gwyntoedd cryf iawn yn siroedd gogledd orllewin Cymru yn y dyddiau nesaf wrth i storm fawr gyntaf y tymor newydd daro’r DU.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wynt a fydd yn effeithio ar siroedd Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy yn sgil Storm Ashley.

Fe fydd yn dod i rym am 03:00 fore Sul ac yn dod i ben am 12:00 ddydd Llun, er mae’n bosib y gallai’r union fanylion newid wrth i’r storm nesáu a datblygu.

Mae disgwyl hyrddiadau hyd at 65 mya yn gyffredinol mewn mannau mewndirol, a hyd at 70 mya mewn mannau arfordirol ble bydd llanw mawr yn ffactor ychwanegol.

Fe allai’r amodau gwaethaf achosi trafferthion i yrwyr a theithwyr, difrod i adeiladau a thoriadau i gyflenwadau trydan.


Source link

Advertisements

See also  Ryan Knight admits part in disorder after teens' deaths

Check Also

WRU outlines reason for cutting one of the west Wales regions

While the decision on where the three licences would be awarded was officially announced in …

Cân Edward H yn ymddangos yng nghyfres Youth gan Sharon Horgan

Dyw clywed cerddoriaeth Gymraeg mewn ffilmiau a chyfresi amlwg ddim yn rhywbeth newydd, gyda’r gân …

Nationwide cashier to repay £12k after stealing from customers

A building society cashier who stole thousands of pounds from customers to pay for “lavish” …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime