google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gwynedd: Menyw yn cyfaddef twyll wrth werthu triniaeth cosmetig

Mae menyw o Wynedd wedi cyfaddef dau gyhuddiad o dwyll yn ymwneud â thriniaethau cosmetig.

Plediodd Carol Edwards, 37 oed, o Lanllechid ger Bethesda, yn euog i dwyll trwy gam-gynrychiolaeth yn erbyn dwy fenyw arall yn 2023.

Roedd y cyhuddiadau’n ymwneud â gwerthu triniaethau cosmetig yr oedd ei chleientiaid yn credu oedd yn driniaeth Botox – pan oedd yn gynnyrch rhatach sydd heb ei drwyddedu.

Roedd y cyhuddiadau mewn cysylltiad â busnes triniaeth harddwch a chosmetig ym Mhorthaethwy ar Ynys Môn.

Adran Safonau Masnach Cyngor Ynys Môn oedd wedi erlyn Edwards.

Cafodd gwrandawiad yn Llys y Goron Caernarfon ei ohirio er mwyn cael adroddiad cyn ei dedfrydu.

Cafodd Carol Edwards ei rhyddhau ar fechnïaeth ddiamod.

Bydd yn cael ei dedfrydu ar 26 Chwefror.


BBC News

Advertisements

See also  Indian town sets new record with 2.6m Diwali lamps

Check Also

County Championship: The numbers behind Glamorgan’s Division One survival

However, One Day Cup and T20 Blast duties over the height of the summer clearly …

'Ystafell a phopeth yn barod ond gadael yr ysbyty heb fabi'

Ar wythnos ymwybyddiaeth colli babi mae mam o Gaerfyrddin yn rhannu’r profiad dirdynnol o golli …

‘Rhaid buddsoddi’ mewn sgiliau pobl ifanc cyn ‘colli cenhedlaeth i ddiweithdra’

Mae’r Gweinidog Sgiliau, Cefin Campbell AS, yn dweud ei fod yn deall y pryderon, ond …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime