google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gwynedd: Disgwyl penderfyniad ar gau dwy ysgol gynradd

Advertisements

Yn ymateb i adroddiad y swyddogion dywedodd y cynghorydd sir lleol, Peter Thomas, y byddai cau Ysgol Baladeulyn yn “ergyd drom i’r gymuned” ac ychwanegodd ei fod yn teimlo y byddai “cau ysgol arall yma yng Ngwynedd yn arwydd arall o’r heriau mae ein cymunedau yn ei hwynebu yng nghefn gwlad ein sir”.

Ychwanegodd: “Os na fydd ysgol, yna fydd teuluoedd gyda phlant ddim yn ystyried prynu neu rentu tai yn Nantlle ac y byddai hynny yn arwain at leihad graddol yn y defnydd cymunedol o’r Gymraeg.”

Yn hytrach, mae o’n ffafrio model o “drefniant cydweithio” gydag Ysgol Tal-y-sarn, o dan arweiniad un pennaeth a un corff llywodraethwyr gyda safle Ysgol Baladeulyn yn aros ar agor.

Hefyd wrth ymateb i’r adroddiad dywedodd y Cynghorydd Dafydd Davies, sy’n cynrychioli ward Clynnog sy’n cynnwys Ysgol Nebo, ei fod yn “parhau yn glir iawn yn ei wrthwynebiad” i gau’r ysgol.

“Nid wyf yn anghytuno bod heriau yn bodoli yn Ysgol Nebo, ond nid wyf yn derbyn mai cau yw’r unig ateb posibl, nag o reidrwydd yr ymateb gorau yn y tymor hir,” meddai.

“Rwyf yn annog y Cabinet i beidio â symud ymlaen i’r cam hysbysiad statudol ond yn hytrach ailystyried yr opsiynau amgen mewn modd gwirioneddol agored a rhoi ystyriaeth lawn i ddyfodol cynaliadwy Ysgol Nebo a’r gymuned mae’n ei gwasanaethu.”

Mae’n parhau i gefnogi galwadau y corff llywodraethol i ddatblygu Ysgol Nebo fel “darpariaeth arbenigol i gefnogi plant gydag anghenion cymdeithasol, emosiynol a llesiant”.

Bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn trafod y cynigion i gau’r ddwy ysgol mewn cyfarfod brynhawn Mawrth.

Os bydd y cynigion yn cael eu cymeradwyo, bydd rhybuddion statudol yn cael eu cyhoeddi a’r disgwyl yw y bydd y ddwy ysgol yn cau ar 31 Rhagfyr eleni.

Byddai’r disgyblion yn symud i’w hysgolion newydd ym mis Ionawr 2027.


BBC News

See also  Green manifesto launch in push for first Senedd seats

Check Also

‘Almost non-existent’ – Shane Williams on WRU schools support

Last month, former Wales captain Jonathan Davies called for the WRU board to step down. …

Sir Tom Jones says he didn’t want to leave ITV’s The Voice

Sir Tom Jones has said he did not want to leave The Voice, saying he …

Caernarfon Rugby Club wins UK Rugby Kitchen of the Year

A Welsh club has won the UK’s Rugby Kitchen of the Year, beating hundreds of …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime