google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gwrthdaro chwyrn rhwng y pleidiau ar fewnfudo mewn dadl deledu

Fe wnaeth trafodaeth ar fewnfudo arwain at wrthdaro chwyrn mewn dadl rhwng gwleidyddion blaenllaw sy’n cynrychioli’r prif bleidiau ledled Prydain ar BBC1 nos Wener.

Y saith plaid wnaeth gymryd rhan yn y ddadl deledu fyw o Lundain oedd y Ceidwadwyr, Y Blaid Werdd, Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru, Reform UK a’r SNP.

Wrth agor y ddadl ar fewnfudo, dywedodd arweinydd Reform UK, Nigel Farage, fod yr holl bleidiau eraill yn meddwl bod cwestiynu mudo yn “rhywbeth anghywir”.

Dywedodd fod mewnfudo wedi creu “argyfwng poblogaeth” oedd yn gwneud pobl yn dlotach ac yn lleihau ansawdd bywydau pobl ac mai “etholiad mewnfudo” ddylai hwn fod.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod rhaid newid naws y ddadl ar fewnfudo.

Dywedodd fod “gormod ohono wedi’i fframio o amgylch rhagfarn (bigotry) pobl fel Nigel Farage”.

Dywedodd y byddai Plaid Cymru yn “sefyll lan yn erbyn Nigel Farage” gan ychwanegu bod “angen mewnfudo ar gyfer y system iechyd, y system ofal a’r economi”.

Gan herio honiad o ragfarn, atebodd Mr Farage: “Agorwch y drysau! Gadewch i bawb ddod! Budd-daliadau i bawb!”.


Source link

Views: 1

See also  Arestio tri mewn cysylltiad â bygythiadau tuag at ysgolion Caerdydd

Check Also

Yr Athro Colin Williams: ‘Pensaer adfywio’r iaith yng Nghymru’

Mae Dr Rhian Hodges yn Uwch Ddarlithydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor: …

'Lovely dog vibes only' – pet photographer heads to the polls

Photographer Ellen Cooper says there is “nothing more fun” than dogs going to vote. BBC …

URC: Cardiff play-off bid boosted by Josh Adams return at Glasgow

Glasgow: McKay; Steyn (capt), McDowall, Sione Tuipulotu, Rowe; Lancaster, Horne; Bhatti, Matthews, Z Fagerson, Miller, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Making digital tools accessible for everyone.