google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Gwireddu breuddwyd’: Cynrychioli Cymru ar ôl trawsblaniad calon

Dyma’r tro cyntaf i gystadleuaeth o’r fath gael ei chynnal a Cymru yn un o 11 tîm yn y digwyddiad yn Cervia yn yr Eidal gyda’r rownd derfynol yn digwydd ar 14 Medi.

Mae yna saith chwaraewr ym mhob tîm ac 20 munud i bob hanner.

Yn anffodus wnaeth tîm Cymru ddim llwyddo i gyrraedd y rownd derfynol wedi iddyn nhw fethu mynd allan o’u grŵp, ond fe wnaeth Gareth fwynhau’r profiad – a chreu hanes.

“Neshi sgorio pedwar gôl yn y twrnamaint ac un ohonyn nhw yn erbyn Lloegr,” meddai. “Os dwi’n gywir, fi ydi’r unig chwaraewr sydd wedi sgorio yn erbyn Lloegr mewn World Cup!”

Dyma benllanw dwy flynedd anoddaf ei fywyd. Ar un adeg roedd o ar ei wely angau, ond ar ôl disgyn i’r dyfnderoedd a chyfadde’ fod ‘na sawl diwrnod tywyll wedi bod, mae cyrraedd Cwpan y Byd a chynrychioli ei wlad wedi bod yn foment emosiynol.

Mae hefyd yn brawf pendant o’i gymeriad i frwydro nôl ac mae Gareth, yn ddigon naturiol, yn falch o’r hyn mae o wedi ei gyflawni.

“Mae’n deimlad arbennig,” meddai. “O’n i byth ‘di meddwl faswn i’n chwarae dros Gymru yng Nghwpan y Byd. Dwi wir yn gwireddu breuddwyd.”


Source link

Views: 2

See also  Forensic spray to help North Wales Police pursue e-bike offenders

Check Also

The execution of Leslie James, the last woman hanged in Wales

After a trial lasting one-and-a-half days, the all-male jury took just 12 minutes to convict …

Teyrnged i feiciwr modur fu farw ar yr A470 yng Ngwynedd

Mae teulu beiciwr modur a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A470 yng Ngwynedd wedi …

Gwrthod cais dyn a lofruddiodd ei wraig o Sir Gâr i adael y carchar

Roedd Cat Razzell yn 13 oed pan gafodd ei mam ei lladd gan ei thad, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
elfbar elfx kit dark sea. Xyz domain name — modern, versatile & generational appeal hostrite hosting news updates.