Jordan Bratcher, 27 o Lanisien – pum mlynedd a chwe mis.
Roedd Bratcher yn un o’r grŵp amlwg fu’n taflu amryw o eitemau tuag at yr heddlu dros gyfnod o oriau.
Clywodd y llys fod plant yn bresennol pan fu’n troseddu.
Tyler Stapleton, 26 o Drelái – pedair blynedd a phedwar mis.
Roedd Stapleton un o’r rhai cyntaf i gyrraedd Heol Wilson, cyn iddo ymuno â’r grŵp fu’n herio’r heddlu yno.
Fe ymunodd â grŵp fu’n casglu eitemau o erddi yn yr ardal er mwyn eu taflu at yr heddlu.
Pan gafodd ei arestio, dywedodd wrth swyddogion ei fod wedi gwneud “rhywbeth twp iawn”.
Keiron Beccano, 38 o Drelái – pum mlynedd a chwe mis.
Bwriad Beccano oedd cerdded heibio llinell yr heddlu ond fe ymunodd â’r grŵp oedd yn herio swyddogion.
Roedd yn un o’r criw aeth i erddi i godi eitemau er mwyn eu taflu.
Fe ddechreuodd dorri darnau o rwbel yn ddarnau llai a’u taflu hefyd.
Luke Williams, 32 o Drelái – chwe blynedd.
Roedd Williams yn bresennol o’r cychwyn ac yn annog pobl eraill i ymuno yn y terfysg.
Bu’n ffrydio’r digwyddiad yn fyw i filoedd o bobl am awr a hanner ar ei ffôn, nes i’r batri redeg yn fflat. Bu’n dathlu pan gafodd plismyn eu hanafu.
McKenzie Pring, 21 o Gaerau – pedair blynedd mewn sefydliad i droseddwyr ifanc.
Pring oedd un o’r cyntaf i fynd i ardd er mwyn codi cerrig a gafodd eu taflu at yr heddlu, cyn iddo redeg i ffwrdd.
Dywedodd y barnwr ei bod hi’n ystyried oedran Pring ar y pryd.
Jaydan Baston, 21 o Gaerau – pedair blynedd a chwe mis mewn sefydliad i droseddwyr ifanc.
Fe gyrhaeddodd y terfysg gyda McKenzie Pring a bu’n chwerthin ar unigolion oedd yn taflu eitemau at yr heddlu.
Yn ddiweddarach fe gododd peth o’r rwbel oedd yn y ffordd cyn ei daflu at yr heddlu.
Harvey James, 20 o’r Tyllgoed – gorchymyn cymunedol 24 mis
Fe ymunodd â’r dorf ac fe ddechreuodd ffilmio’r digwyddiad er ei ffôn symudol.
Cododd garreg oddi ar y llawr a’i guddio o dan ei siwmper. Fe’i gwelwyd yn taflu rhywbeth at y swyddogion cyn ffoi o’r ardal mewn car.
Gan ei fod yn 17 oed ar y pryd, fe benderfynodd y barnwr i osod gorchymyn cymunedol fydd yn para am ddwy flynedd.
Fe ddechreuodd aelodau o’r oriel gyhoeddus glapio wrth glywed na fyddai’n mynd i’r carchar.
Dywedodd y barnwr: “Nid adloniant yw hyn. Gwrandawiad dedfrydu yw e. Gadewch y llys nawr. Pob un ohonoch chi.”
BBC News