google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gwaith i barhau ar Bont y Borth tan Gwanwyn 2026

Ff8b76b0 a8bd 11ef 8ab9 9192db313061.jpg

Advertisements

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd gwaith cynnal a chadw yn parhau i ddigwydd ar Bont y Borth tan y Gwanwyn flwyddyn nesaf.

Roedd gobaith y byddai’r gwaith atgyweirio wedi’i gwblhau erbyn mis Awst 2025, cyn i hynny newid i fis Rhagfyr eleni.

Ond mewn datganiad ddydd Gwener, dywedon nhw eu bod yn “hynod siomedig” o weld fod ‘na “oedi o ran y rhaglen wreiddiol”.

Mae’r datganiad yn dweud fod Cam 2 o’r gwaith yn wynebu oedi oherwydd “materion caffael, gofynion ychwanegol a materion o ran cael trwyddedau angenrheidiol”.

Maen nhw’n cydnabod “y bydd y newyddion hyn yn siomedig iawn i’r gymuned ac eraill”.

“Bydd hyn yn arwain at y gwaith yn parhau yn ystod dyddiad 200 mlwyddiant y bont” yn Ionawr 2026, meddai Llywodraeth Cymru.

Maen nhw’n dweud bod y cwmni UK Highways A55 Ltd wedi “ymrwymo i sicrhau y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau ar gyfer cyfnod yr haf” fel bod modd i’r dathliadau barhau.


BBC News

See also  Murder accused appears in tearful court

Check Also

Network Rail sues companies for £5m over Llanegennech derailment

Network Rail is suing two rail companies for more than £5m after a fuel spill …

Cardiff City news: Brian Barry-Murphy ‘mindful’ over defenders before Norwich tie

“With regard to Tuesday, with the players who have been doing all the training and …

Cneifio 3,282 o ŵyn i godi arian er cof am anwyliaid

Mae dau ffermwr o ogledd Powys wedi cwblhau her gneifio eithriadol dros y penwythnos ac …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime