google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 24 2026

Gwaith £2bn ar yr A465 yn dirwyn i ben wedi 23 mlynedd

Ond tra bod rhai cwmnïau wedi elwa, mae’r gwaith wedi dal eraill yn ôl – yn llythrennol yn achos Evan Shepard a’i gwmni tacsis.

Mae’r ffordd newydd yn rhedeg y tu ôl i’w fusnes ar Stad Ddiwydiannol Pant ar gyrion Merthyr Tudful.

“Weithiau byddwch chi’n troi heb feddwl ar yr A465 ac mae popeth ar stop, byddwch chi yna am 45 munud,” meddai Mr Shepard.

“Weithiau ni’n cael problemau gyda’r bysys mawr, dy’n nhw ddim yn gallu cyrraedd nôl mewn pryd felly mae’r gyrwyr yn gorfod tynnu fewn ar ochr y ffordd i gael hoe. Ni’n gorfod derbyn llai o waith.

“Ni’n cael lot o waith casglu gweithwyr o’r lladd-dy lleol, chi’n sôn am dri chwarter awr i wneud dwy filltir. Chi’n gorfod mynd trwy’r traffig i gyrraedd ‘Kepac’ ac yna nôl trwy’r traffig i fynd lawr i’r dre.

“Ni methu chargo pobl y pris llawn neu bydd neb yn bwcio ni felly mae’r gyrwyr yn colli mas ond gobeithio byddwn ni’n elwa pan ddaw’r gwaith i ben.”


BBC News

Advertisements

See also  Child autism assessment waits 'soul-destroying', say parents

Check Also

RAF Valley: What video footage tells us about training jet crash

A video of the crash shared on social media appears to show the two pilots …

Lliwen Glwys a’r ‘wefr bob dydd’ o gyflwyno Cyw

Fel wyneb newydd Cyw, mi fydd Lliwen yn cyflwyno’r rhaglenni plant ar S4C ond hefyd …

Peidiwch cwestiynu fy ymroddiad i Gymru – Craig Bellamy

Mae Cymru’n falch i fod n’ôl yn Adran A Cynghrair y Cenhedloedd. Ar y cae …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime