google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gwahaniaethau goroesi canser dros Gymru yn dangos ‘problemau parhaus’

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai “canser yw un o’r achosion mwyaf cyffredin o salwch a marwolaeth yng Nghymru – mae mwy i’w wneud i atal canser a dysgu trwy ymchwil”.

“Rydym wedi buddsoddi degau o filiynau o bunnoedd mewn cyfleusterau canser newydd, offer, systemau digidol, hyfforddiant gweithlu, triniaethau, sgrinio a gwasanaethau diagnostig.

“Rydym yn cefnogi byrddau iechyd i wella amseroedd aros canser fel rhan o’n Rhaglen Adfer Canser gwerth £2m, sy’n newid sut mae gwasanaethau yn cael eu darparu i wella mynediad.”

Yn ôl Plaid Cymru maen nhw’n “siomedig fod Cymru yn parhau fel yr unig wlad yn y DU heb strategaeth canser” ac y dylai cynllun canser newydd gael ei gyflwyno yn “blaenoriaethu ataliaeth, diagnosis cynnar, a thriniaeth amserol i bawb”.

Dywedodd Reform UK fod amseroedd aros canser yn “parhau i fod yn annerbyniol o hir” a bod Cymru yn bell ar ei hôl hi o gymharu â rhannau eraill o’r DU, gan ddweud y byddai Reform yn lleihau’r amseroedd petai mewn grym.

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol ei bod hi’n “gwbl anfaddeuol” bod cleifion canser yn y cymunedau tlotaf yn cael diagnosis hwyrach ac y dylai diagnosis cynnar, sgrinio priodol a mynediad at driniaeth amserol fod yn “flaenoriaeth”.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig a’r Blaid Werdd wedi derbyn cais am ymateb.


BBC News

Advertisements

See also  Cofio bywyd y telynor o Feirionnydd, Huw Lewis Jones

Check Also

Caldey Island monk gave naked photos of himself to visitors

Caldey Island was once known for being “crime free”, but in 2017, six women settled …

Sir Gâr: Galw am foratoriwm ar gau ysgolion Cymraeg yng Nghwm Gwendraeth

Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru: “Ni all Gweinidogion Cymru wneud sylw ar gynigion ad-drefnu ysgolion …

Thief sees Swansea family are out on social media, steals Rolexes and £48k

A man planned a burglary on a family home after seeing social media posts that …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime