google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gostyngiad 19,000 yn nifer y siaradwyr Cymraeg sy’n byw yng Nghymru

Advertisements

Yn ôl yr arolwg blynyddol, yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2026 roedd 27.3% o bobl dair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg – sy’n cyfateb i thua 843,700 o bobl.

Mae’r amcangyfrif diweddaraf tua 0.4% yn uwch na’r flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2025 pan roedd amcangyfrif fod 26.9% o bobl yn gallu siarad Cymraeg.

Dydy’r cynnydd hwn ddim yn arwyddocaol yn ystadegol, meddai’r llywodraeth.

Roedd plant a phobl ifanc tair i 15 oed yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg (47.7%) nag unrhyw grŵp oedran arall.

Mae hyn yn gyson dros amser, ond mae canran y plant a phobl ifanc tair i 15 oed sy’n gallu siarad Cymraeg wedi bod yn gostwng yn gyffredinol ers dechrau 2019.

Mae’r ystadegau diweddaraf hefyd yn dangos:

  • Yng Nghaerdydd (94,900), Gwynedd (93,800) a Sir Gaerfyrddin (89,500) mae’r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg;

  • Ym Mlaenau Gwent (8,100) a Merthyr Tudful (8,400) mae’r niferoedd isaf;

  • Yng Ngwynedd (76.9%) ac Ynys Môn (63.4%) mae’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg.

  • Ym Mlaenau Gwent (11.9%) a Phen-y-bont ar Ogwr (13.8%) mae’r canrannau isaf.

Fe wnaeth 14.5% (446,800) o bobl tair oed neu hŷn adrodd eu bod yn siarad Cymraeg yn ddyddiol, 4.9% (151,900) yn wythnosol a 6.4% (198,600) yn llai aml.

Dywedodd 1.5% (46,000) eu bod byth yn siarad Cymraeg er eu bod yn gallu ei siarad. Nid oedd 72.7% yn gallu siarad Cymraeg.

Dywedodd 31.5% (971,600) eu bod yn gallu deall Cymraeg llafar, 25% (772,300) eu bod yn gallu darllen yn Gymraeg, a 22.4% (692,600) eu bod yn gallu ysgrifennu’n Gymraeg.


BBC News

Views: 2

See also  Welsh ports shortlisted for offshore wind farms

Check Also

Blaenavon and Harlech communities rally to help crews at wildfires

“The support that everyone has shown has been amazing. “Everyone wants to help them in …

Newport children’s nurse says neuroblastoma diagnosis for her son has been ‘horrendous’

The family has so far managed to raise £50,000 of their £250,000 goal. Sarah said …

Wrexham’s Bartle swaps Eurovision buzz for Champions League dream

From Eurovision to European football, it has been a memorable summer for Jodie Bartle and …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime