google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Gobaith o hyd’ er gwaethaf cau un o gapeli Cymraeg Lloegr

Advertisements

Mae’r Parchedig Robert Parry hefyd yn weinidog ar gapeli eraill yn Lloegr – Capel Seion ym Mhenbedw, Capel Bethania yn Waterloo yn nociau Lerpwl, Capel Bethel, Heathfield Road yn Lerpwl, ac ef bellach sydd yng ngofal Capel Noddfa, Oaker Avenue ym Manceinion.

“Dwi’n falch o ddweud bod pobl sy’n symud i Loegr yn parhau i weld y capel fel man cyfarfod a chymdeithasu yn Gymraeg,” meddai wrth Cymru Fyw.

“Mae gynnon ni rai teuluoedd sydd wedi dechrau dod i Bethel yn Heathfield Road.

“Un o’r pethau dwi wedi dechrau ‘neud acw yw ailddechrau yr oedfa hwyrol bob deufis a chynnal clwb cyri ar ôl hynny – mae hynna i weld yn denu pobl iau a gobeithio bydd myfyrwyr yn dod hefyd.

“Mae gynnon ni hefyd oedfa deuluol ar y trydydd bore Sul ymhob mis – mae hynna hefyd yn fodd i ddenu rhai, a’r nod yw denu mwy o blant.

“Y Nadolig diwethaf fe gawson ni oedfa yng ngolau cannwyll ar y Sul cynt, ac roedd y capel yn orlawn a daeth 16 o blant i’r parti Nadolig – rhywbeth na sydd wedi digwydd ers blynyddoedd.

“Wrth gynnal dwy Ysgol Sul newydd mae rhywun yn parhau â’r dystiolaeth er bod y brics wedi mynd.”


BBC News

Views: 0

See also  Cyfraith bosib i wahardd Aelodau o'r Senedd sy'n dweud celwydd

Check Also

Traders 'devastated' as market loved by TV prop buyers could be bulldozed for housing

Developers have submitted plans to build 93 affordable homes on part of the site. BBC …

Cofio croeso cynnes Aldwyn Brunt i gapel lleiaf Y Wladfa

Roedd sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu cynnal yng Nghapel Glan Alaw ar y Sul yr …

Only Plaid Cymru can beat Reform, says Rhun ap Iorwerth

Asked if public sector workers would get a pay increase each year under a Plaid …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Link. cassinox hızlı giriş rehberi.