google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Glaw trwm yn achosi llifogydd gyda dros 20 rhybudd mewn grym

Advertisements

Nos Fawrth dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Penfro bod llawer o ffyrdd ar gau yn sgil y glaw trwm a bod Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi gorfod achub sawl gyrrwr.

Mae yna lifogydd yn ardal Cwmbwrla yn Abertawe eto, ac ar un adeg roedd nifer o gartrefi heb drydan.

Dywedodd Vicky Sheffield o dafarn The Gatehouse yng Nghwmbwrla, fod y llifogydd yn “waeth” nag yr oeddent chwe wythnos yn ôl.

“Mewn 26 mlynedd nid yw hyn erioed wedi digwydd o’r blaen ac mae bellach wedi digwydd ddwywaith mewn chwe wythnos. Mae’n eithaf brawychus.”

Nos Fawrth dywedodd Cyngor Abertawe eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i wella’r sefyllfa o gwmpas cylchfan Cwmbwrla.

“Mae’r cylfat o dan glwb Cwmfelin yn dal i fod wedi blocio a dyma yw’r brif broblem,” medd llefarydd.

“Yn y cyfamser, rydym wedi dod ag offer pwmpio i mewn i gynorthwyo llif y dŵr.

“Fodd bynnag, mae glaw trwm a pharhaus yn golygu efallai bod gormod o ddŵr i’r offer pwmpio ac efallai y bydd yn rhaid cau’r ffordd nes bod y gwaith trwsio wedi digwydd.

“Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ailagor y ffordd cyn gynted â phosibl.”


BBC News

See also  Ffilm ffantasi fawr yn cael ei ffilmio yng nghastell Conwy

Check Also

Cymru Premier: Third win on spin for Connah’s Quay

Connah’s Quay Nomads enjoyed their third successive win in Cymru Premier by beating new boys …

Torfaen becomes global hotspot for carbon emissions after wildfires

Melanie Simmonds, head of Save the Children Wales, said: “In Wales and across the world, …

Cofrestru yn yr Eisteddfod ‘a rŵan ella bo’ fi’n rhoi cyfle arall i rywun fyw’

I Elin, mae’r ffaith mai cofrestru yn yr Eisteddfod, ar fympwy, oedd dechrau’r daith yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime