google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Gerwyn Price a Jonny Clayton yn colli yn ffeinal Cwpan Dartiau’r Byd

Advertisements

Mae Gerwyn Price a Jonny Clayton wedi dod o fewn trwch gwifren i ennill Cwpan Dartiau’r Byd 2025 dros Gymru ar ôl colli yn erbyn Gogledd Iwerddon yn y ffeinal.

Ar ôl dod yn ôl i guro’r Iseldiroedd 8-5 yn y rownd gynderfynol, roedd Josh Rock a Daryl Gurney yn drech na Price a Clayton 10-9 mewn clasur yn yr Almaen nos Sul.

Mae’r gystadleuaeth i barau wedi cael ei chynnal yn Frankfurt eleni, gyda Price a Clayton wedi gobeithio ennill am y trydydd tro dros Gymru ers 2020.

Y ffefrynnau oedd Luke Littler a Luke Humphries o Loegr – ond fe gollon nhw yn annisgwyl yn rownd yr 16 olaf yn erbyn y tîm cartref, yr Almaen.

Fe enillodd Cymru eu gêm gyntaf yn erbyn Ynysoedd Philippines o 8-2, cyn trechu Hong Kong o 8-4 yn rownd yr wyth olaf.


BBC News

See also  Aston Martin warns St Athan plant jobs at risk in costs review

Check Also

Dyn 102 oed wedi marw ar ôl cael ei ‘wthio’ mewn tafarn – cwest

Dywedodd y crwner fod yr heddlu yn dal i ymchwilio i farwolaeth Philip Ormerod, bod …

Ashley Williams and Alan Sheehan join Wales coaching staff

Former Wales captain Ashley Williams and ex-Swansea boss Alan Sheehan have joined Craig Bellamy’s backroom …

Gwireddu breuddwyd tad wrth ail agor becws olaf Caernarfon

Meddai Radoslaw: “Mae ganddon ni gwsmeriaid sy’n dod yma ac yn dweud bod eu taid …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime