We are an affiliate
Newsatw.com is a participant in the Amazon Services LLC Associates Program, an affiliate advertising program designed to provide a means for sites to earn advertising fees by advertising and linking to Amazon.co.uk.“As an Amazon Associate, I earn from qualifying purchases.”
Ar y ffordd i gwrdd â Geraint Thomas am gyfweliad ar fws Ineos ar ôl y ras roedd rhaid i ni gerdded ar ochr y ffordd gyda seiclwyr ar beiciau modur yn gwibio heibio – profiad gwych.
Roedd Thomas wedi ymladd, wrth reswm, a prin yn gallu siarad – ond roedd yna o fwy siarad â Daf a fi wrth i ni ohebu ar y radio a’r teledu cyn gyrru i lawr y mynydd i dre Montellebuna i aros y noson.
Ben bore i ffwrdd â ni i ddinas Bassano Del Grappa, yng nghysgod Monte Grappa.
Roedd yna awr o dwristiaeth wrth i fi groesi’r afon Brenta dros Ponte Vecchio pren cafodd ei adeiladu yn 1209.
Tra oedden ni’n cerdded ar y bont roedd Thomas a’r peloton yn straffaglu i fyny lawr Monte Grappa ddwywaith cyn i ni gwrdd â fo yn ddiweddarach.
Does dim amser i aros yn llonydd yn y Giro – aeth Geraint a’i dîm ar awyren o’r gogledd-ddwyrain i lawr i Rufain i baratoi ar gyfer y cymal olaf.
Aeth criw BBC Cymru ar drên dros nos o Venice.
Source link
Best Electronic Deals.
Discover the Best Electronic Deals on Amazon Today. Grab Hot Discounts on Top Tech! Don't Miss Out! 🔥 Save Big Now!