google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 30 2026

Gary Lineker wedi gwthio ffiniau’r BBC, medd Elan Closs Stephens

Mewn cyfweliad ar raglen Beti a’i Phobol dywedodd y Fonesig Elan: “Bob tro ro’n i’n mynd i weld yr Ysgrifennydd Gwladol [Lucy Frazer] mi roedd mater Gary Lineker ar flaen ei bysedd hi.

“Ac mae’n rhaid dweud mae o [Lineker] yn bryfoclyd hefyd – mae o’n popian fyny bob hyn a hyn – a tydi o ddim yn ‘neud bywyd rhywun yn hawdd.

“Ac mae o’n gwthio’r ffinia’. Hynny ydy, roedd genno’ ni arweinlyfr ar be’ oeddech chi’n gallu dweud ar y cyfryngau cymdeithasol, a dewrder a ffolineb Lineker ydy bod o’n gwthio’r ffiniau yna i’r eithaf.

“Os oedd ‘na drydar dy’dwch am gwch oedd wedi suddo neu rywbeth, bydda fo’n ail drydar o – fydda fo ddim yn dweud dim byd ac felly doedd o ddim wedi dweud bod o’n cytuno nag anghytuno – roedd o jest wedi ail drydar.

“Ond wrth gwrs roedd hynny’n dân ar groen llawer iawn o bobl oedd eisiau gweld o’n cael ei ddiswyddo.”

Pan gysylltodd Cymru Fyw gyda chynrychiolydd Lineker am ymateb i sylwadau’r Fonesig Elan, dywedodd na fyddai am wneud hynny.


Source link

Advertisements

See also  Cwmni a chysur radio cymunedol, mewn cyfnod ansicr i ddarlledu

Check Also

Angela Shellis Channel 4 documentary reveals insights into son who murdered mum

During Roberts’ sentencing, the court heard the first Dictaphone message said: “This is Tristan Roberts. …

Nid mater i’r Kremlin yw ein dyfodol cyfansoddiadol – prif weinidog

Mater i bobl Cymru, ac nid i’r Kremlin, yw dyfodol cyfansoddiadol y wlad, meddai prif …

Welsh independence not for Kremlin to decide, says first minister

Wales’ constitutional future within the UK is for its people and not the Kremlin to …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime