google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Galw ar Archesgob Cymru i ymddiswyddo wedi adroddiadau beirniadol

6b6a3c40 2cc1 11f0 8f57 b7237f6a66e6.jpg

Advertisements

Roedd yr Athro Syr Malcolm Evans yn aelod o’r panel statudol i’r ymchwiliad i gam-drin rhywiol plant (IICSA), ymchwiliodd i gam-drin plant yn rhywiol mewn ysgolion, eglwysi, pleidiau gwleidyddol, grwpiau crefyddol a chartrefi plant, gan wneud cyfres o argymhellion.

Er nad oes sôn am gam-drin plant yn benodol yng Nghadeirlan Bangor, mae Syr Malcolm yn poeni am y sefyllfa yno.

Dywed ei bod “o ddiddordeb i bawb i gael tryloywder llwyr” a’i bod hi’n “siomedig” mai crynodebau yn unig sydd wedi eu cyhoeddi.

“Un o argymhellion allweddol IICSA oedd y dylai archwiliadau ddigwydd a chael eu cyhoeddi,” meddai.

Dywed i IICSA weld arferion da o fewn i’r Eglwys yng Nghymru ar lefel genedlaethol, a’i bod yn “destun tristwch” nad yw hynny i weld wedi digwydd yng Nghadeirlan Bangor.

“Mae’r rhain yn bethau sydd wir yn cadw pobl yn ddiogel dros amser,” meddai.

“Ar yr wyneb, ymddengys bod rhywbeth difrifol wedi mynd o’i le o ran trosglwyddo polisïau’r Eglwys ar lefel genedlaethol i’r hyn sydd yn digwydd ar y ddaear.”

Derbyniodd yr Eglwys yng Nghymru argymhellion IICSA ar y pryd, gan ddweud bod ganddyn nhw system genedlaethol diogelu a rheoli achosion, gan ddweud y byddai staff priodol yn derbyn hyfforddiant yn unol â’u cyngor gweithredu.

O ran Cadeirlan Bangor, maen nhw’n dweud bod sefydlu’r grŵp gweithredu a’r bwrdd goruchwylio yn dangos bod y mesurau y cytunwyd arnynt o ganlyniad i adroddiad IICSA yn cael eu dilyn, a bod yr ymrwymiad i’r safonau uchaf o ddiogelu, llywodraethu ac ymddygiad yn cael eu cynnal.


BBC News

Views: 1

See also  How Plaid Cymru's Caerphilly by-election win unfolded, in pictures

Check Also

Zan Vipotnik: Will Swansea City striker be the next big Championship transfer exit?

Vipotnik has scored 25 Swansea goals in all competitions this season, a huge step forward …

‘Jôc’ oedd sylw ‘Welsh lad?’ medd aelod Reform wedi honiad o hiliaeth

Mr Banks oedd ymgeisydd Reform yn yr etholiad ar gyfer maer gorllewin Lloegr yn 2025, …

Reform's Arron Banks says message that sparked racism claim was joke

Banks wrote “Welsh lad?” in response to a video from a black Plaid Cymru activist. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
In conclusion, while hacking awesome tanks 2 may seem tempting, it is not worth the risks and consequences. 4* benidorm b&b break with resort stay & return flights | wowcher.