google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ffermwyr yn protestio yn erbyn treth etifeddiaeth yn Llundain

Cyn y newidiadau, mae hi wedi bod yn bosib trosglwyddo ffermydd o genhedlaeth i genhedlaeth heb orfod talu treth etifeddiaeth.

Ond yn ei chyllideb fis diwethaf, fe gyhoeddodd y Canghellor Rachel Reeves y byddai ffermydd sy’ werth dros £1m yn wynebu treth etifeddiaeth yn y dyfodol ar raddfa o 20%, gyda’r opsiwn o’i dalu’n radddol dros gyfnod o 10 mlynedd.

Ers hynny, mae’r llywodraeth wedi honni droeon bod lwfansau eraill yn golygu bod y trothwy mewn gwirionedd yn nes at £3m i nifer, gan olygu y byddai’r newid ond yn targedu’r tirfeddianwyr mwyaf cefnog, ac yn diogelu ffermydd bach.

Ond dyw hyn ddim wedi llwyddo i leddfu’r pryderon o fewn y gymuned wledig, yn ogystal â’r dryswch ynglyn â faint fydd yn cael eu heffeithio.

Mae’r Trysorlys yn cynnig ffigwr o tua 500 ystad y flwyddyn, tra bod yr undebau amaeth yn pwyntio at ddata gan adran materion gwledig y llywodraeth, DEFRA, sy’n awgrymu y byddai nes at dau draean o ffermydd yn ddigon mawr i orfod talu’r dreth.


Source link

Views: 0

See also  Trip nifer o gefnogwyr Cymru i Montenegro wedi'i ganslo

Check Also

Christian Fuchs: Newport County chairman Huw Jenkins shocked by manager’s exit

Fuchs’ departure means Jenkins is looking for a new manager for the third successive summer, …

Murci fashion side hustle from nan’s house turns into £10m business

Olivia always loved fashion, but never imagined a side hustle from her grandmother’s house would …

Lamb kebabs made of goat compared to horsemeat in lasagne scandal

Kismet Kebabs remains one of the UK’s largest kebab meat suppliers. In 2024, the company …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime