google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Euro 2025: Pwy yw’r merched mewn glas?

B7861260 5b25 11f0 960d e9f1088a89fe.jpg

Advertisements

Bydd llawer yn dweud mai prif chwaraewr Les Bleues yw Sakina Karchaoui, sy’n chwarae dros Paris Saint-Germain.

Wnaeth Karchaoui, sy’n 29 oed, symud safle yn ddiweddar o fod yn amddiffynnwr chwith i fod yn chwaraewr canol cae. Yn ogystal, mae hi newydd gael ei gwneud yn ddirprwy gapten.

Mae Karchaoui wedi cynrychioli ei gwlad 90 o weithiau ers cael ei chap cyntaf yn 2016, gan chwarae yn y ddwy bencampwriaeth Euros ddiwethaf.

Mewn carfan sydd â nifer o chwaraewyr newydd ynddi, a heb sêr fel Wendie Renard, Eugénie Le Sommer a Kenza Dali, bydd Karchaoui, gyda’i phrofiad a’i dygnwch, yn chwaraewr hynod o werthfawr.

Mae Sandy Baltimore, sy’n 25 oed ac yn chwarae dros Chelsea, yn un arall i wylio.

Symudodd Baltimore o Paris Saint-Germain i Chelsea y llynedd, ac roedd hi’n allweddol i’w llwyddiant ysgubol yn y Women’s Super League yn 2024, wrth iddyn nhw ennill y gynghrair, Cwpan yr FA a Chwpan y Gynghrair.

Gyda’i chyflymdra a’i gallu i sgorio, bydd rhaid i garfan Rhian Wilkinson gadw llygaid barcud arni!


BBC News

See also  Yr ysgolhaig a'r casglwr caneuon gwerin Roy Saer wedi marw yn 90 oed

Check Also

Dyn 102 oed wedi marw ar ôl cael ei ‘wthio’ mewn tafarn – cwest

Dywedodd y crwner fod yr heddlu yn dal i ymchwilio i farwolaeth Philip Ormerod, bod …

Ashley Williams and Alan Sheehan join Wales coaching staff

Former Wales captain Ashley Williams and ex-Swansea boss Alan Sheehan have joined Craig Bellamy’s backroom …

Gwireddu breuddwyd tad wrth ail agor becws olaf Caernarfon

Meddai Radoslaw: “Mae ganddon ni gwsmeriaid sy’n dod yma ac yn dweud bod eu taid …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime