google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Etholiad Senedd Cymru: Chwyldro arall ym Merthyr?

595359b0 4210 11f0 8ea4 91d9e5dc3491.jpg

Yng nghanolfan Soar oddi ar y sgwâr roedd yna gyfle i gasglu barn ambell aelod o gynulleidfa rhaglen Hawl i Holi Radio Cymru.

Ac wrth drafod yr etholiad roedd gobeithion Reform yn bwnc a gododd dro ar ôl tro, er nad oedd llawer o gefnogaeth i’r blaid ymhlith yr etholwyr yma.

“Mae llawer ar y we ar y foment am Reform a Nigel Farage,” meddai Bethan sy’n ddisgybl 17 oed yn Ysgol Rhydywaun.

“Dwi ddim yn cefnogi meddylfryd e a dyna beth fi’n gweld rhan fwya’r amser.”

Dywedodd Gemma Marshall, sy’n dysgu ym Merthyr, ei bod hi’n disgwyl y bydd pethe’n “wahanol iawn blwyddyn nesa”.

Tra’n gobeithio y bydd Plaid Cymru’n gwneud yn dda, mae hi’n “poeni” am Reform.

Er nad yw’n arfer cefnogi’r blaid Lafur, mae Llyr Evans yn ystyried gwneud hynny y flwyddyn nesaf achos “mae’n rhaid dewis rhywun sy’n mynd i gadw Reform allan”.

Ond beth sydd wrth wraidd y twf ym mhoblogrwydd Reform?

“Mae pobl wedi danto,” meddai Nia Barrar.

“Mae pobl wedi cael digon o bopeth: effaith Covid, effaith toriadau’r cynghorau lleol – dyw Llundain ddim yn rhoi digon o arian i Gymru.”


BBC News

Advertisements

See also  Rhybudd am wyntoedd cryfion ar draws Cymru nos Sul a dydd Llun

Check Also

‘Rare opportunity’ to buy land including Zip World and two power stations

A huge estate featuring an outdoor adventure park, a hotel and historic quarries, set within …

Ydy pobl Caernarfon yn cofio pa ffordd mae’r cloc yn troi?

Mae troi’r cloc yn hen draddodiad, sy’n dyddio yn ôl i 1916, ond pam? Yn …

North Wales Crusaders set for RFL talks over future

Wales’ only professional rugby league side had been on the brink of collapse earlier this …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime