google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Esgob Llandaf yn diolch am bob cefnogaeth wedi blwyddyn anodd

Wedi blwyddyn anodd dywed Y Gwir Barchedig Mary Stallard, Esgob Llandaf, bod y gefnogaeth y mae hi a’i theulu wedi’i dderbyn ar ôl iddi golli ei mam mor sydyn wedi bod yn anhygoel.

Bu farw Daphne Stallard, 89, ar ôl iddi gael ei tharo gan lori ailgylchu yn Llandudno ddechrau Medi 2025.

“Roedd y cyfan yn sioc anferth,” medd yr Esgob Stallard yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg “ond mae’r caredigrwydd dibendraw sydd wedi’i ddangos i ni wedi rhoi nerth i ni wynebu’r dyfodol.”

“Ni wedi ca’l gymaint o bobl yn gweddïo droston ni ac er bo fi fel offeiriad yn gwybod am rym gweddi dwi wedi profi’r grym o’r newydd ac felly yn gallu wynebu’r dyfodol yn llawer gwell na’r disgwyl ynghanol galar.

“Mae nifer o bobl sydd wedi galaru eu hunain wedi dod aton ni i ddangos y ffordd a dwi wedi darllen yn rhywle bod modd i ni ddarganfod ein hunain yn well pan ry’n ni ar ein gliniau.”

Ychwanegodd ei bod wedi dysgu pethau newydd am ei mam hefyd ers ei marwolaeth a bod ei ffydd hithau yn ystod tlodi a chyfnodau anodd wedi bod yn gymorth pellach.


BBC News

Advertisements

See also  Nifer o fusnesau wedi denu llai o ymwelwyr yn ystod yr haf

Check Also

Labour calls for M4 relief road, seven years after axing the plan

Asked what he would say to accusations of a U-turn, Skates added: “Well, it’s a …

VisionQuest fans to meet Marvel villain from Wales, with Cardiff accent

Morais recalled being like “a rabbit in the headlights” surrounded by all the stars of …

Tro pedol ar gynllun i ddileu statws eglwysig Ysgol Cilgerran

Mewn cyfarfod yn Neuadd y Sir, Hwlffordd, ddydd Iau, dywedodd yr aelod cabinet dros addysg …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime