google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Eluned Morgan yn galw am gael gwared ar y terfyn budd-dal dau blentyn

6a9a6350 3bce 11f0 91a0 abc9c23352d4.jpg

Advertisements

Fe wnaeth arweinwyr Plaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru alw am gael gwared ar y terfyn budd-dal lles dau blentyn yn ystod y ddadl deledu ar BBC Cymru cyn yr etholiad cyffredinol.

Ac wrth ymateb ddydd Mercher, dywedodd Sioned Williams AS, “mae hyn yn rhagrith syfrdanol gan Lafur”.

“Y Nadolig diwethaf, gwnaeth Eluned Morgan wawdio Plaid Cymru am fynnu cael gwared ar y cap dau blentyn.

“Mor ddiweddar â mis Hydref diwethaf, pleidleisiodd ASau Llafur yn erbyn ein galwadau yn y Senedd i sefyll dros blant mewn tlodi a dod â’r cap creulon hwn i ben.

“Yn y cyfamser yn San Steffan, ni chefnogodd unrhyw AS Llafur Cymru ein hymdrechion i’w ddileu – ac fe wnaeth Keir Starmer wahardd ei ASau ei hun am bleidleisio i amddiffyn plant.

“Nawr, yn sydyn, mae Llafur yn newid eu tôn.

“Byddai rhywun yn cael ei faddau am feddwl nad yw hyn yn ymwneud ag egwyddor, ond panig – wedi’i yrru gan arolygon barn, nid gwerthoedd.”

Ar 24 Gorffennaf 2024, cafodd saith AS Llafur eu gwahardd o’r blaid dros dro ar ôl pleidleisio yn erbyn y llywodraeth ar welliant i ddileu’r cap budd-dal dau blentyn.

Rhybuddiodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Darren Millar, “y gwir amdani yw y byddai dileu’r cap budd-dal dau blentyn yn dod ar gost ariannol, a fyddai’n cael ei dalu yn y pen draw gan drethdalwyr sy’n gweithio’n galed”.

“Er y dylai’r wladwriaeth bob amser gefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed, rhaid pwyso a mesur unrhyw gostau ychwanegol yn erbyn egwyddor tegwch i’r trethdalwr,” meddai.

“Addawodd Llafur y byddai cael dwy lywodraeth yn gweithio ar y naill ben a’r llall o’r M4 yn cyflawni dros Gymru, ond y cyfan rydyn ni wedi’i weld yw plaid mewn rhyfel â hi ei hun a phrif weinidog Cymru sydd yn amlwg heb unrhyw ddylanwad ar brif weinidog y DU.”


BBC News

See also  Cardiff City reset: 'Relegation a blessing' but issues remain

Check Also

I watched as 9/11 plane flew over my home – moments later my wife was killed

Charles first met Katherine in New York in 1988, when he was singing with a …

Super Rygbi Cymru: Canada flanker Sion Parry hunts Ebbw Vale success before World Cup

Parry’s father, Geraint, was an inside centre for Builth Wells, Wrexham and Chester who coached …

ade Jones: Olympic taekwondo champion aims to prove age just a number

Jones captured the hearts of audiences during the 2012 London Olympics, when she became the …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime