google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Eluned Morgan yn cyhuddo ASau Llafur o beidio brwydro dros Gymru

F34fb5e0 2672 11f0 b26b ab62c890638b.jpg

Advertisements

Yr wythnos hon mae Eluned Morgan wedi dod dan bwysau gan y gwrthbleidiau ynghylch cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer y diwydiant dur, gyda chyhuddiadau bod y gwaith dur ym Mhort Talbot wedi cael ei drin yn wahanol i’r un yn Scunthorpe.

Cyhoeddodd Eluned Morgan lythyr at ysgrifennydd busnes Llywodraeth y DU ddydd Mercher lle mae hi’n galw am glustnodi cyfran sylweddol o gronfa ddur Llywodraeth y DU, gwerth £2.5bn, ar gyfer Cymru.

Mae pryderon y gallai’r rhan fwyaf o’r arian gael ei glustnodi ar gyfer Scunthorpe.

Mae Ysgrifennydd Cymru Jo Stevens wedi siarad yn flaenorol am ailosod y berthynas rhwng y ddwy lywodraeth i “un o ymddiriedaeth, cydweithrediad a pharch at ei gilydd”.

Wrth siarad yn nadl Dydd Gŵyl Dewi yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd fod Llywodraeth y DU eisoes wedi ymrwymo £6bn o fuddsoddiad i Gymru, gan gynnwys £25m fel rhan o gynllun i wneud tomenni glo yn ddiogel.

Credir hefyd fod tensiynau rhwng Llafur yng Nghymru a Llafur yn San Steffan ynghylch ble mae’r prif fygythiad i’r blaid yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf.

Yn gyffredinol, mae ASau yn San Steffan yn credu mai’r her fwyaf yw Reform, ond maen nhw’n credu bod eu cydweithwyr yn y Senedd yn canolbwyntio gormod ar Blaid Cymru.

Mae polau piniwn diweddar yn awgrymu bod y tair plaid bron yn gyfartal.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts: “O dan Eluned Morgan, mae Llafur yng Nghymru unwaith eto wedi’i rhwygo gan ffraeo mewnol, yn union fel yr oedd o dan Vaughan Gething.

“Mae pobl ledled Cymru – o weithwyr dur ym Mhort Talbot i’r henoed a’r anabl – yn haeddu arweinwyr sy’n ymladd drostyn nhw, nid yn erbyn ei gilydd.”


BBC News

Views: 0

See also  'Pryder digynsail' yn sgil ansicrwydd am daliadau amaeth

Check Also

Lle oeddwn i: Caryl Parry Jones a Calon

Mi o’n i ar y trên o Lundain i Gaerdydd. Ar y pryd o’n in …

Women’s Six Nations: Bethan Lewis to captain Wales v England with Kate Williams and Carys Cox out

Bethan Lewis will lead Wales against England in the Women’s Six Nations on Saturday (14:15 …

Beth yw D’Hondt? Beth sy’n newid yn Etholiad Senedd Cymru 2026?

Beth yw D’Hondt? Beth sy’n newid eleni yn Etholiad Senedd Cymru 2026? Sut fydd dy …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime