google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Elizabeth Taylor yng Nghymru: ‘Oedd hi’n dwli bod ‘ma’

Yr actores Elizabeth Taylor oedd un o sêr mwya’ disglair yr ugeinfed ganrif ac mae hi dal yn adnabyddus heddiw am ei pherthynas a’i phriodasau gyda’r actor o Bontrhydyfen, Richard Burton.

Gyda rhaglen ddogfen newydd ar BBC2 am ei bywyd, Elizabeth Taylor: Rebel Superstar, bu nith Richard Burton, Sian Owen, yn sgwrsio ar Dros Frecwast ar Radio Cymru am ei hatgofion am ei modryb.

Meddai Sian: “Dwi’n cofio hi’n dod i Bontrhydyfen am y tro cyntaf a’r criw yn y stryd a’r pobl gyferbyn â ni yn ennill lot o arian achos oedd y ffotograffwyr i gyd moyn mynd lan llofft i gael llun o Elizabeth yn dod mas o’r drws. So ’nath y stryd yn dda iawn mas o hwnna!

“Ond i ’weud y gwir, daeth Elizabeth mewn i’r tŷ a’r peth cynta’ ofynnodd hi i Mam oedd ‘ble mae’r tŷ bach Hilda?’


Source link

Advertisements

See also  Bala: Farmer accidentally fell into slurry pit - inquest

Check Also

Swansea City: John Toshack watches on as Vitor Matos’ table-toppers eye own history

Swansea’s next two fixtures – against last season’s play-off semi-finalists Millwall and promotion favourites West …

Man dies at scene of motorbike and car crash in Swansea

A man has died following a crash between a motorbike and a car in Swansea. …

Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic modur a char yn y de

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic modur a char yn Abertawe. Dywedodd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime