google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Dysgu mynd i’r toiled ddim yn fater du a gwyn’

“Dydy rhieni ddim yn gallu gadael eu gwaith sawl gwaith y dydd i wneud hyn. Mae’n anghyfleus ar y gorau ac yn beryglus ar y gwaethaf. Ydy hi’n rhesymol bod llawfeddyg yn gadael llawdriniaeth ar ei hanner i fynd i newid clwt ei blentyn? Gyrrwr bws yn stopio ar ganol ei daith i fynd i wneud hyn? Athro neu athrawes yn gadael 30 o blant i newid eu plentyn eu hunan mewn ysgol arall?

“Dyw e ddim yn deg ar gyflogwyr nac ar y gweithwyr eraill fyddai’n gorfod camu i’r adwy. Y canlyniad, heb os, fyddai llai o rieni i blant anabl, sydd â chyfraniad mawr i’w wneud, yn gweithio.

“Hoffwn ofyn i unrhyw un sydd o blaid y polisi i ofyn iddyn nhw eu hunain a fydden nhw’n dymuno aros mewn clwt budur am amser hirach na sydd raid neu adael eu gweithle sawl gwaith y dydd i newid clwt eu plentyn. Fe fydd ‘na rieni sydd â mwy nag un plentyn oed ysgol angen eu newid. Sut maen nhw fod dod i ben?

“Mae rhai rhieni yn byw’n bell o’r ysgol neu heb fod â thrafnidiaeth hwylus i gyrraedd safle’r ysgol yn sydyn. Mae na gost i’r rhan fwyaf o’r siwrneiau hyn. Bydd yn effeithio ar rieni sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, pobl na all gerdded, neu bobl sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn waeth, a’u plant nhw fydd yn aros hiraf am eu rhieni ddod i’w newid.

“Mae’r polisi yn ei hanfod yn gwahaniaethu yn erbyn plant sydd ag anableddau anweladwy. Fyddech chi ddim yn gofyn i riant i ddod i’r ysgol bob tro mae plentyn sy’n defnyddio cadair olwyn angen cael ei wthio o le i le, felly pam fod hyn yn wahanol?

“Does neb yn mwynhau newid clytiau ond mae’n jobyn sydd angen ei gwneud. Dydw i ddim yn meddwl, o anghenraid, y dylai athrawon wneud, ond mae angen staff cynorthwyol mewn lle. Os yw plentyn yn cael anhawster i ddefnyddio’r tŷ bach, maen debygol y bydden nhw’n elwa o gael cymorth ychwanegol mewn sawl agwedd arall o’r diwrnod ysgol.

“Dyw’r polisi ddim yn helpu perthynas yr ysgol a’r rhieni. Mae’r berthynas yma yn holl bwysig, yn enwedig yn achos plant sydd angen help ychwanegol.”


BBC News

Advertisements

See also  Gweinidog Iechyd yn mynnu bod modd 'gweithio o fewn y gyllideb' a gwella canlyniadau

Check Also

Team GB’s Dimitri Coutya claims gold hat-trick at Para-fencing Euros

Team GB’s Dimitri Coutya completed a stunning hat-trick of gold medals at the 2026 Para-fencing …

Wrexham dog owners fear contaminated land contributed death

A couple say their dog may have died after being exposed to an orange substance …

Jonathan Ross’ daughter Honey is learning Welsh by practising on dog

A Welsh content creator has shared how his girlfriend Honey Ross, daughter of TV presenter …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime