google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dynes yn byw mewn ofn ar ôl dau brofiad ‘erchyll’ o stelcian

Ym mis Ionawr 2020 cafodd yr heddlu’r grym i gyhoeddi Gorchmynion Amddiffyn Stelcian. Nod rhain yw amddiffyn dioddefwyr rhag aflonyddu pellach.

Mae’r heddlu’n gwneud cais i’r llys ynadon am orchymyn, ac os caiff ei ganiatáu – mae’n drosedd torri amodau gorchymyn.

Ond mae cais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru yn dangos mai pump gorchymyn amddiffyn rhag stelcian a gafodd eu cyhoeddi gan luoedd heddlu Cymru yn 2023. Derbyniodd yr heddlu 8,000 adroddiad o’r drosedd yn yr un cyfnod.

“Mae’r ffigyrau yn siomedig iawn, ond dyw nhw ddim yn sioc,” meddai Fflur Jones, rheolwr polisi Ymddiriedolaeth Suzy Lamplough sy’n darparu cymorth i ddioddefwyr stelcian ar draws Prydain.

Dywedodd: “Ni wedi codi nifer o faterion systemig o ran ymateb yr heddlu i adroddiadau o stelcian ac un o’r rheini oedd bod nhw’n bychanu dioddefwyr. Ers 2020 maen nhw wedi gallu defnyddio gorchmynion amddiffyn ac mae’n hen bryd iddyn nhw ddechrau defnyddio nhw.”

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud eu bod nhw’n cymryd stelcian o ddifrif. Mae hynny’n cynnwys creu swyddi penodol i ganolbwyntio ar y drosedd.


Source link

Advertisements

See also  Cyhuddo dyn 28 oed o lofruddio babi pum mis oed

Check Also

Ban foreign nationals from Welsh house-shares, says Reform

Reform called for social housing to be reserved to Welsh people during its Senedd election …

Prestatyn murder investigation finds woman’s body in burning van

A body found in a burning van has been confirmed as a woman, police have …

Security improvements made at Bangor’s Hergest unit since student’s death

Security improvements have been made at a mental health unit in the years since the …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime