google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyn yn y llys wedi ei gyhuddo o ladd merch, 17, yn Sir Caerffili

Mae dyn 18 oed wedi ymddangos o flaen llys wedi ei gyhuddo o lofruddio merch 17 oed yn Sir Caerffili.

Dim ond cadarnhau ei enw, ei ddyddiad geni a’i gyfeiriad wnaeth Cameron Cheng, o Drecelyn, yn ystod y gwrandawiad byr yn Llys y Goron Caerdydd.

Yn ogystal â’i gyhuddo o lofruddio Lainie Williams yng Nghefn Fforest yn y Coed-duon, mae wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio dynes arall a bod ag arf yn ei feddiant.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i Wheatley Place am 07:15 ddydd Iau diwethaf.

Bu farw Ms Williams, o Gefn Fforest, yn y fan a’r lle.

Bydd Mr Cheng yn cael ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf ar 12 Rhagfyr.

Mae disgwyl i’r achos gael ei gynnal ym mis Mai y flwyddyn nesaf.


BBC News

Advertisements

See also  Carmarthen man charged after dog walker died in crash

Check Also

Cardiff City: Barry-Murphy praises resolve in Boro draw

Cardiff remain in the bottom half of the table after the draw and, after 11 …

Clayface’s Tom Rhys Harries says prosthetics helped performance

Actors are often said to be the face of the film, but in Tom Rhys …

Black Lion 14-39 Ospreys: Welsh side ease to Challenge Cup win in Georgia

Black Lions: Tsirekidze; A Tabutsadze, L Tabatadze, Akhvlediani, R Makhatadze; Babunashvili, Spenderashvili; Abdushelishvili, Kvatadze, Khatiashvili, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime