Dyn yn euog o ddynladdiad wedi ffrae y tu allan i dafarn

Yn ystod yr achos, cafodd y digwyddiad ei ddisgrifio gan yr erlyniad fel “ymosodiad parhaus” ar ddioddefwr “diamddiffyn”.

Clywodd y llys fod Chappel wedi dweud wrth yr heddlu fod y ffrae yn ymwneud ag arian i brynu cyffuriau, a’i fod o wedi brolio am yr ymosodiad i’w ffrindiau.

Fe dorrodd Mr Bradley un o’i asennau, fe gafodd haint ar y frest wnaeth arwain at sepsis, yn ogystal ag anaf i’r ymennydd gafodd ei achosi gan ddiffyg ocsigen.

Clywodd y llys fod Mr Bradley wedi cael ei ryddhau o’r ysbyty, ond ei fod wedi dychwelyd rai dyddiau yn ddiweddarach ar ôl i’w fam alw 999.

Yn ôl arbenigwyr meddygol, dylai rhagor o ymchwiliadau meddygol wedi cael eu cynnal ar Mr Bradley yn yr ysbyty.

Fe fydd Steven Chappel yn cael ei gadw yn y ddalfa tan iddo gael ei ddedfrydu ar 19 Awst.


Source link

Views: 0

Check Also

Wales: Playing under Craig Bellamy a ‘pleasure’ – Joe Rodon

Wales will be without Rodon’s Leeds team-mates Daniel James and Ethan Ampadu for the upcoming …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime