google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 24 2026

Dyn wedi’i ladd gan gar tra’n gorwedd yn y ffordd – cwest

Mae cwest wedi clywed fod dyn a oedd yn credu ei fod wedi taro mochyn daear gyda’i gar, wedi taro a lladd dyn mewn gwirionedd.

Bu farw Sion Jones, 43, wedi iddo gael ei daro gan gar ar yr A525 ger Coed-poeth, Wrecsam, ar noson 2 Mai 2023.

Yn y cwest i’w farwolaeth dywedodd gyrrwr y car a darodd Mr Jones, Sam Edwards, ei fod yn gyrru o fewn y terfyn cyflymder 50mya ar y pryd.

Dywedodd ei fod wedi gweld rhywbeth yn cropian ar hyd y ffordd, a’i fod wedi’i daro.

Ychwanegodd ei fod wedi taro mochyn daear ar yr un ffordd rhai blynyddoedd ynghynt, a’i fod felly’n credu mai dyna’r achos y tro hwn hefyd.

Ond wedi iddo sylweddoli ar y difrod i’w gar Ford Focus, aeth yn ôl i’r lleoliad a sylweddoli ei fod wedi taro Mr Jones.

Cafodd ei gyhoeddi’n farw yn y fan a’r lle, ac fe ddaeth i’r amlwg yn ddiweddarach ei fod wedi dioddef anaf difrifol i’w ymennydd.


Source link

Advertisements

See also  Degau o filoedd o docynnau heb eu gwerthu ar gyfer gemau'r Chwe Gwlad

Check Also

Disgwyl i beilotiaid Awyrlu ‘wella’n llwyr’ ar ôl i awyren ddisgyn ym Môn

Mewn datganiad ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Iau dywedodd yr RAF: “Mae’r ddau beilot yn gwneud …

Cardiff woman heartbroken after fiancee dies on holiday in Cyprus

A woman whose fiancee died while on holiday in Cyprus said they had planned to …

RAF Valley: What video footage tells us about training jet crash

A video of the crash shared on social media appears to show the two pilots …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime