google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyn 18 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio tad i saith

Mae dyn 18 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Colin Richards yn ardal Trelái, Caerdydd.

Fe gafodd Mr Richards, 48, ei ddarganfod yn anymwybodol ar Heol Snowdon yn dilyn adroddiad o ddigwyddiad ar Heol-Y-Berllan a Heol Trelái, Caerau, am tua 23:30, ar 7 Ebrill.

Fe gadarnhaodd yr heddlu bod Mr Richards wedi cael ei drywanu, ac er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw’r tad i saith o’i anafiadau.

Bydd Corey Gauci, sy’n dod o Gaerdydd, yn cael ei gadw yn y ddalfa tan iddo fynd o flaen ynadon Caerdydd ar 30 Ebrill.

Mae dyn arall 26 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth, ond bydd yn dychwelyd i’r carchar am dorri amodau ei drwydded.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd teulu Mr Richards ei fod yn “dad, taid, brawd, ewythr a chefnder cariadus, ac yn ddyn teulu”.


Source link

Views: 0

See also  Wife 'never believed' husband would kill anyone

Check Also

Traders 'devastated' as market loved by TV prop buyers could be bulldozed for housing

Developers have submitted plans to build 93 affordable homes on part of the site. BBC …

Cofio croeso cynnes Aldwyn Brunt i gapel lleiaf Y Wladfa

Roedd sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu cynnal yng Nghapel Glan Alaw ar y Sul yr …

Only Plaid Cymru can beat Reform, says Rhun ap Iorwerth

Asked if public sector workers would get a pay increase each year under a Plaid …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Link. Modern, mobil uyumlu ve yüksek hızlı bir arayüz.