google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 16 2026

‘Dwi’n cwestiynu oes angen mynd mas oherwydd diffyg tai bach anabl’

Advertisements

Yn ôl Cat Dafydd mae teithio i ardaloedd newydd yn gallu bod yn bryder os nad yw hi’n gwybod lle mae’r tai bach anabl, ac mae eu safon, meddai, yn amrywiol.

“Rhan fwyaf o’r amser mae rhywbeth yn y ffordd – highchairs neu mops a bwcedi, cadeiriau. Maen nhw’n defnyddio’r tai bach fel rhyw fath o storage area.

“Rhan fwyaf o’r amser mae angen i mi ofyn am help, i fynd mewn a symud pethau o gwmpas.”

Ychwanegodd ei bod weithiau’n penderfynu peidio gadael y tŷ am ei bod yn poeni am safon cyfleusterau.

“Os dwi’n mynd rhywle dwi heb fod o’r blaen a dwi ddim yn gwybod ble mae’r tai bach anabl ma’ fe’n becso fi braidd, achos mae angen rhywle glân â digon o le.

“Chi ddim yn gallu stopio’ch hun angen y tŷ bach felly dwi’n ailfeddwl ambell waith os oes angen mynd mas.”


BBC News

See also  'Dylai'r rhai sydd wedi lladd a stelcwyr fyw mewn parthau cyfyngedig'

Check Also

AS Reform Sarah Cooper-Lesadd yn symud i Blaid Cymru

Cafodd Ms Cooper-Lesadd ei hethol i’r Senedd fis Mai i gynrychioli Pen-y-bont Bro Morgannwg. Ers …

Reform MS Sarah Cooper-Lesadd plans to defect to Plaid Cymru

Plaid Cymru’s ruling body is meeting Tuesday afternoon to discuss the defection of a Reform …

Arweinydd Reform Cymru yn ymddiswyddo ar ôl cael ei ‘gyfeirio at yr heddlu’

Mae Dan Thomas wedi ymddiswyddo fel arweinydd Reform yng Nghymru. Mewn datganiad, dywedodd: “Dros y …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime