google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dros hanner gweithlu Cymru wedi’u haflonyddu’n rhywiol – arolwg

8bea4560 618b 11f0 960d e9f1088a89fe.jpg

Advertisements

Mae dros hanner o’r gweithlu yng Nghymru wedi cael eu haflonyddu’n rhywiol yn y gweithle, yn ôl arolwg YouGov.

O’r gweithwyr, penderfynodd 7% i beidio â gwneud cwyn swyddogol ac roedd 10% yn ansicr a fyddai’r cyflogwr yn eu coelio.

Bu 2,000 o weithwyr ledled Cymru yn rhan o waith ymchwil YouGov gyda 56% o ddynion a 55% o fenywod yn rhannu straeon am aflonyddu rhywiol.

O dan y Ddeddf Diogelu Gweithwyr, rhaid i gyflogwyr ddisgyblu neu sicrhau bod gweithwyr sydd yn euog o aflonyddu rhywiol yn atebol am hynny.

Mae’r gyfraith, a gafodd ei diwygio ym mis Hydref 2024, yn berthnasol i aflonyddu ar gyfryngau cymdeithasol yn ogystal ag aflonyddu gan gwsmeriaid, cleientiaid, defnyddwyr gwasanaeth, neu aelodau’r cyhoedd.

Mae hyn hefyd yn cynnwys ymddygiad mewn unrhyw ddigwyddiad neu sefyllfa sy’n gysylltiedig â gwaith fel parti Nadolig, digwyddiadau y tu allan i’r swyddfa, neu negeseuon rhwng cydweithwyr.

O’r ymatebion i’r arolwg, dywedodd un o bob 10 nad oedd gan eu gweithle bolisi aflonyddu rhywiol ffurfiol neu nad oeddent wedi cael gwybod fod yna bolisi.


BBC News

Views: 0

See also  Merch 13 oed o dde Cymru wedi marw ar wyliau yn Florida

Check Also

Wrexham man sent on youth training scheme by Department for Work and Pensions in error

A man in his 50s “mistakenly placed” on a training programme for 16-30 jobseekers has …

Dau yn y llys wedi’u cyhuddo o fasnachu pobl ifanc i Wlad Thai

Mae’r ddau ddyn ifanc yn parhau yn y ddalfa yng Ngwlad Thai ac yn cael …

Ysgol Charlotte Church yn wynebu cau ar ôl agor heb ganiatâd cynllunio

Nod The Awen Project yw rhoi amgylchedd i blant “lle maen nhw’n teimlo eu bod …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Contains custom information set by the web developer via the _setcustomvar method in google analytics. nikotinsalz elfbar elfliq pink lemonade 10mg elfbar vape store.