google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Drakeford yn grac am beidio cwtogi gwyliau haf ysgolion

Roedd yr Ysgrifennydd Addysg Lynne Neagle wedi cyhoeddi fore Mawrth bod “amrywiaeth barn sylweddol” ar y mater.

“Er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn, mae angen i ni barhau i drafod a gwrando ar ysgolion, athrawon ac undebau yn ogystal â phlant, pobl ifanc a rhieni ar y ffordd orau o weithredu unrhyw newidiadau yn y dyfodol,” meddai.

Dywedodd bod diwygiadau mawr fel y cwricwlwm newydd a newid y drefn anghenion dysgu ychwanegol yn “gofyn llawer gan athrawon ac ysgolion”.

“Maen nhw’n cefnogi ein huchelgais i drawsnewid addysg yng Nghymru ac mae angen amser a chyfle arnyn nhw i sicrhau bod y diwygiadau hyn yn cyflawni ar gyfer plant a phobl ifanc,” meddai Ms Neagle.

“Rwy’ am roi blaenoriaeth i’r diwygiadau sy’n mynd rhagddynt i ysgolion a gwella cyrhaeddiad, felly ni fydd unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i’r flwyddyn ysgol yn ystod tymor y Senedd hon.”


Source link

Advertisements

See also  Ben Davies: Wales and Spurs defender out for 'period of time'

Check Also

Boy wins award after steering car to safety when mum collapsed

A mother whose life was saved by her son’s quick thinking after she collapsed at …

Dyn, 61, wedi'i gyhuddo o lofruddio menyw, 47, ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae dyn 61 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio menyw 47 oed ym Mhen-y-bont ar Ogwr. …

Aeron Pughe a’r ŵyl sy’n dathlu canu gwlad ym Machynlleth

Dywed Aeron bod pobl efallai’n cael y syniad anghywir o ganu gwlad, ac bod eu …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime