google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Disgwyl ffyrdd prysur wrth i bobl deithio adref ar gyfer y Nadolig

Advertisements

Gyda gwyliau’r Nadolig ar ddechrau, mae disgwyl i filoedd ar filoedd o bobl deithio adref dros y dyddiau nesaf.

Yn ôl cymdeithas foduro’r RAC, roedd dros 37 miliwn o geir yn defnyddio ffyrdd y DU dros y penwythnos – gyda disgwyl i’r prysurdeb barhau tan y diwrnod mawr.

Bydd rhywfaint o drafferthion ar y rheilffyrdd dros yr Ŵyl – gyda gwaith cynnal a chadw yn digwydd ar y lein rhwng Caerdydd a Llundain rhwng 27 Rhagfyr a dydd Calan.

Ond mae yna newyddion da i’r rhai sy’n defnyddio fferïau, gan fod porthladd Caergybi – y llwybr môr prysuraf rhwng Prydain ac Iwerddon -ar agor.

Roedd y porthladd hwnnw ar gau adeg yma’r llynedd yn sgil difrod a gafodd ei achosi yn ystod Storm Darragh.

Mae amserlenni yn dal i gael eu heffeithio gan effaith Storm Bram yn gynharach yn y mis – ac mae gofyn i bobl wirio eu cynlluniau yn ofalus cyn teithio.


BBC News

Views: 0

See also  Gorlenwi carchardai Cymru a phrinder staff yn 'tanseilio diogelwch'

Check Also

‘Trist’ bod nifer siaradwyr Cymraeg Ystradgynlais wedi gostwng gymaint

Yn llyfrgell y dre mae grŵp o ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn cwrdd yn gyson. …

Starmer defence plans will cut Welsh budget, says first minister

The Welsh government added: “It is completely unacceptable that Welsh capital budgets which are already …

Cardiff video shows seagull ‘meeting’ and overflowing bins as students move out

Adan, from London, lived in Cathays while studying a masters degree in international relations. She …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
These are shared with google adwords / google ads when the google ads and google analytics accounts are linked together.