google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dirwy o £1.34m i Openreach ar ôl marwolaeth Alun Owen

Dywedodd gweddw Mr Owen, Ceri, fod marwolaeth ei gŵr yn “golled enfawr i bawb”.

“Roedd colli Al wedi cael effaith sylweddol ar y teulu cyfan. Roedd yn drawmatig iawn,” meddai.

Dywedodd bod ei farwolaeth wedi effeithio ar ei hiechyd a’i bod wedi cael pyliau o banig a cholli pwysau.

Ychwanegodd bod ei dwy ferch hefyd wedi cael profiad o or-bryder.

“Roedden nhw’n poeni’n fawr y byddai rhywbeth yn digwydd i mi gan ei fod wedi digwydd i’w tad,” meddai.

“Ni fydd ein teulu fyth yr un fath.”

Cafodd datganiad ar ran mam Mr Owen ei ddarllen yn y llys gan ei chwaer, Lowri.

“Mae colli Al wedi fy newid fel person. Dwi’n meddwl amdano pob munud o bob dydd,” meddai.

“Dwi wastad ac mi fyddai am byth wedi torri ‘nghalon.”


Source link

Advertisements

See also  Galw am fwy o reoleiddio pecynnau tyllu clustiau cartref

Check Also

Ianto’s shrine in Cardiff to Torchwood character to be ‘regenerated’

Torchwood followed Captain Jack and his team of alien hunters and has grown a cult …

Person wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhowys

Mae person wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhowys dros y penwythnos. Cafodd y gwasanaethau …

Cyhuddo dyn 65 oed ar ôl i ddyn arall ddioddef ‘anafiadau difrifol’

Mae dyn 65 oed wedi’i gyhuddo o anafu gyda bwriad a chael cyllell yn ei …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime