google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , November 4 2026

Dirprwy arweinydd y Blaid Werdd yn ymddiswyddo dros bolisi Seioniaeth

Mae Plaid Werdd Lloegr a Chymru wedi mabwysiadu yn ffurfiol, yn ei chynhadledd ddydd Sul, y polisi dadleuol sy’n datgan bod Seioniaeth – sy’n cael ei ysytyried yn fras fel cefnogaeth i fodolaeth Israel, a’i hawl i fodoli fel gwladwriaeth Iddewig – yn hiliaeth.

Mae’r polisi – sydd wedi rhannu aelodau’r blaid – yn cefnogi “sefydlu un wladwriaeth Balestinaidd ddemocrataidd ar draws holl diriogaeth hanesyddol Palestina, gyda Jerwsalem yn brifddinas iddi, hawliau cyfartal i bawb, a hawl dychwelyd i Balestiniaid a’u disgynyddion”.

Mae’n diffinio Seionaeth fel ideoleg sy’n cefnogi “gwladwriaeth Iddewig ethno-genedlaethol”.

Roedd arweinydd Plaid Werdd Lloegr a Chymru, Zak Polanski, eisiau newidiadau i’r cynnig, ond cawson nhw eu gwrthod gan y gynhadledd.

Ni chymerodd Mr Polanski, sy’n Iddewig, ran yn y bleidlais ddydd Sul.

Dywedodd bod “gwrth-semitiaeth a beirniadaeth o wladwriaeth Israel yn gwbl wahanol – ac rhaid iddyn nhw barhau felly; mae cymylu’r ffin rhwng y ddau yn anghywir ac hefyd yn wrth-semitaidd, ac yn gwneud pobl Iddewig yn llai diogel”.

Mewn ymateb, mae Israel wedi gwahardd Polanski mynd i mewn i’r wlad.

Mae grwpiau Iddewig hefyd wedi disgrifio’r cam fel “ymosodiad” ar eu cymuned, ac adroddodd rhai ASau Llafur a Democratiaid Rhyddfrydol y blaid i gorff gwarchod cydraddoldeb y DU.


BBC News

Advertisements

See also  Ricardo Rees: The non-league striker proving a match for Erling Haaland

Check Also

Lorry driver electrocuted after vehicle hit overhead power line

A driver of a tipper lorry was electrocuted after part of his vehicle hit an …

Beirniadu cynlluniau Bwrdd Iechyd Powys i ad-drefnu ysbytai cymunedol

Mae rhaglen ‘Gwella Gyda’n Gilydd’ y bwrdd iechyd hefyd yn cynnwys cynigion i ad-drefnu gwasanaethau …

Wrexham: Phil Parkinson seeks Middlesbrough response after honest talks

“We’re not where we want to be, we know that, but we’ve got to dig …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime