google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dirgelwch creadur y Boggit yng Ngheredigion

Ond oedd y Boggit yn bodoli go-iawn? Oedd ‘na gath wyllt yn crwydro mynyddoedd a chorsydd Ceredigion, neu stori wneud oedd y cyfan?

Roedd honiad fod y Boggit wedi’i ddal gan John Jones a fod ganddo’r corff i brofi hynny. Roedd y llun wedi’i rannu ar draws Cymru a phobl yn rhyfeddu fod cath wyllt gyda streipiau melyn, cyrn a dannedd mawr wedi’i dal yng nghefn gwlad Ceredigion.

Ond o ble ddaeth y gath yma?

Dyma oedd gan Jasmine a Shân, merched John Jones i’w ddweud am straeon eu tad.

“Lynx oedd e wedi’i stwffio, brawd Dad gafodd e. Prynwyd y gath ‘ma mewn rhyw hen siop yn Llundain, fe wnaeth Hugo, brawd dad roi’r cyrn a’r dannedd arno fe ac fi wnaeth baentio’r cylchoedd melyn arno fe,” meddai Shân.

“Roedd Dad hefyd yn hoffi dweud storis yn y pyb hefyd ac roedd pobl yn prynu peints iddo fe i gadw fe fynd.

“Roedden nhw bach yn bored yn gaeaf felly roedden nhw’n gwneud pethau fel hyn i fyny. Roedd Dad wedi creu rhyw stori,” medd Jasmine.


BBC News

Advertisements

See also  Eisteddfod Pontrhydfendigaid yn dathlu 60 mlynedd

Check Also

'Ystafell a phopeth yn barod ond gadael yr ysbyty heb fabi'

Ar wythnos ymwybyddiaeth colli babi mae mam o Gaerfyrddin yn rhannu’r profiad dirdynnol o golli …

‘Rhaid buddsoddi’ mewn sgiliau pobl ifanc cyn ‘colli cenhedlaeth i ddiweithdra’

Mae’r Gweinidog Sgiliau, Cefin Campbell AS, yn dweud ei fod yn deall y pryderon, ond …

Murluniau’n ‘fwy nag addurn’, maen nhw’n ‘adrodd ein hanes a’n hunaniaeth’

Mae Gwenllian Beynon, uwch ddarlithydd yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime