google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Dim tystiolaeth’ bod efengylu mewn ysgol yn y canolbarth

Does dim tystiolaeth yn awgrymu bod Ysgol Uwchradd Llanidloes yn hyrwyddo creadaeth [creationism] a chwrs Cristnogol efengylaidd, yn ôl datganiad gan Gyngor Powys.

Cafodd ymarfer canfod ffeithiau annibynnol ei gomisiynu gan y cyngor a Chorff Llywodraethol Ffederasiwn Ysgolion Llanidloes, yn dilyn galwadau am ymchwiliad yn 2024.

Roedd y Gymdeithas Seciwlar Genedlaethol [NSS] wedi dweud ar y pryd eu bod wedi derbyn lluniau o bosteri mawr ar waliau’r ysgol, yn dangos bywyd morol a chysawd yr haul o dan linellau o’r Beibl megis ‘Mawr yw gwaith yr Arglwydd’ a hefyd ‘Creodd Duw y morfilod mawr’.

Ond, mae’r ymarfer wedi cadarnhau bellach bod pennaeth yr ysgol, Daniel Owen, yn gweithredu’n llawn o fewn y ddeddfwriaeth berthnasol a chanllawiau’r llywodraeth.

Roedd datganiad y cyngor yn dweud nad oedd unrhyw dystiolaeth, ar ôl archwiliad trylwyr, bod yr ysgol yn hyrwyddo Cristnogaeth gan eithrio crefyddau eraill a chredoau anghrefyddol.

Mae pennaeth yr ysgol, Daniel Owen, wedi dweud ei fod “yn falch bod yr adolygiad yn cadarnhau ein bod yn cydymffurfio â’r holl ganllawiau perthnasol”.


BBC News

Advertisements

See also  Dyn o Wrecsam yn cyfaddef gwerthu cemegyn hunanladdiad ar-lein

Check Also

Anglesey almshouses to be converted into ‘affordable’ homes for young people

A Grade-II listed building that once provided charitable housing is set to be converted into …

Chwareli llechi hanesyddol a safle atyniad Zip World ar werth

Mae’r safle’n rhan o ardal llechi Gwynedd gafodd ei rhoi ar restr Safleoedd Treftadaeth Byd …

Merched o’r gogledd am droi profiadau anodd canser yn rhai cadarnhaol

Yn ôl Sally Roberts sy’n ffotograffydd o Dremeirchion ac yn sylfaenydd y calendr Breast Friends, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime