google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dim trafodaethau ar ddatganoli Ystâd y Goron – gweinidog y DU

Mae Eluned Morgan wedi mynnu ei bod yn lobïo Llywodraeth y DU i roi pwerau i Gymru dros Ystâd y Goron, ar ôl i weinidog Trysorlys y DU ddweud na fu unrhyw drafodaethau.

Y Brenin sy’n berchen ar Ystâd y Goron, ac mae’n helpu i ariannu’r Teulu Brenhinol.

Mae gan yr ystâd dir sydd werth dros £603m yng Nghymru, yn cynnwys 65% o wely’r môr o amgylch yr arfordir.

Yn Yr Alban, mae’r arian mae Ystâd y Goron yn ei hawlio yn mynd i Lywodraeth Yr Alban, a pholisi Llywodraeth Cymru yw y dylai’r ystâd gael ei datganoli i Gymru hefyd.

Ond dywedodd gweinidog Trysorlys y DU, Darren Jones, nad oes unrhyw drafodaethau wedi’u cynnal.

Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan wrth y Senedd ei bod wedi “codi” y pwnc gyda’r Canghellor Rachel Reeves, ond dywedodd Plaid Cymru nad oedd hynny yr un peth â “thrafod gyda Llywodraeth y DU”.


BBC News

Advertisements

See also  World Cup qualifying: Rabbi Matondo 'buzzing' after achieving Wales dream

Check Also

FAW: Welsh football sets out aims – and says it needs more money

The FAW last set out targets in 2021, qualification for the 2022 men’s World Cup …

Doeddwn ond yn gweld un ffordd allan, rhaid rhannu’r baich – Gareth Parry

Bellach yn 33 oed bu Gareth yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Rhosybol, ac yn …

Ianto’s shrine in Cardiff to Torchwood character to be ‘regenerated’

Torchwood followed Captain Jack and his team of alien hunters and has grown a cult …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime