google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dim modd gwrando ar Radio Cymru ar BBC Sounds dramor cyn hir

Ers 1988 mae’r newyddiadurwr Andy Bell wedi byw yn Awstralia, ac mae bellach yn cynhyrchu podlediad Cymraeg ar y cyfryngau o’r enw ‘Rhaglen Cymru’.

“Mae hwn yn newyddion siomedig,” meddai

“Mae cadw cysylltiad mor bwysig i’r diaspora, ac mae’r oes digidol wedi newid pethau, bellach mae’n bosib dilyn newyddion yn well o lawer nag yn yr hen ddyddiau, a mi fydde torri y cysylltiad yma yn glec, achos dyw podlediad – er fy mod i yn cynhyrchu podlediad – ddim yr un fath â radio byw.”

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, ei fod “bob amser yn bryder pan fo gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cwtogi – boed hynny yma yng Nghymru neu du hwnt”.

Ychwanegodd y bydd yn cysylltu â’r BBC “er mwyn deall yn well y penderfyniad posib hwn a’r oblygiadau i’r gynulleidfa Gymraeg”.

Er bod y BBC yn pwysleisio bydd modd gwrando trwy lwyfannau ac apiau eraill, mae Esyllt yn dweud bydd hynny’n cymhlethu pethau i bobl sy’n gwrando nawr.

“D’on i ddim yn ymwybodol bod modd gwrando trwy apiau eraill a deud y gwir.

“Dwi’n ystyried bo fi’n weddol ifanc o ran medru defnyddio technoleg ond mae na do hŷn sydd wedi arfer efo Sounds.

“Os fydd hi’n anoddach gwneud hynny, ac os fydd gwasanaeth llawn ddim ar gael i ni, dwi ddim yn meddwl y byddan nhw’n gwrando.”


BBC News

Advertisements

See also  Pryderon am gynlluniau i gau unedau strôc

Check Also

Jack Davies: Teyrngedau i chwaraewr rygbi ifanc o’r gogledd

Mae teyrngedau wedi’u rhoi i chwaraewr rygbi ifanc yn dilyn ei farwolaeth annisgwyl. Roedd Jack …

Tom Rhys Harries: Y Cymro sy'n serennu fel gelyn Batman ar y sgrîn fawr

Mae’r actor o Gaerdydd wedi son am y “cyfle cyffrous” i ymuno â’r bydysawd DC …

Wales make four changes to face Samoa at World Cup

After conceding 13 tries against England on their World Cup debut, Wales will be hoping …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime