google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 9 2026

‘Dim modd gwerthu fflat oedd yn fuddsoddiad ar gyfer ymddeol’

Advertisements

Mae lesddeiliaid ar draws y DU wedi cymryd camau cyfreithiol tebyg yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn sgil pryderon am ddiogelwch blociau o fflatiau uchel – yn enwedig ar ol trychineb tân Grenfell yn 2017.

Yn Abertawe, dechreuodd trigolion symud mewn i ddatblygiad Aurora yn 2009.

Yn sgil problemau gyda dŵr yn dod i mewn i’r adeilad a diffygion diogelwch tân dywed Jayne McGregor ei bod hi’n “amhosib gwerthu’r fflat”.

“Mae’r straen oherwydd y problemau ariannol sydd wedi codi yn sgil yr holl broblemau gyda’r fflat wedi achosi problemau iechyd,” ychwanegodd.

Roedd problem gollwng dŵr yn natblygiad Aurora yn fuan ar ôl i’r gwaith adeiladu cael ei gwblhau.

Cafodd diffygion diogelwch tân eu canfod yn ddiweddarach.

“Yn 2017, gyda thrychineb Grenfell, fe wnaeth hynny gynyddu lefelau straen pawb,” meddai Keith Evans, un o’r perchnogion sy’n arwain y camau cyfreithiol yn erbyn Zurich.

“Rydyn ni’n teimlo ein bod wedi ein twyllo yn 2008 pan gafodd yr fflatiau eu codi.”


BBC News

See also  'Heriau' i gynghorau wrth geisio cyflwyno gofal plant am ddim

Check Also

Cardiff City: Barry-Murphy urges winless Bluebirds to be ‘more ruthless’

Brian Barry-Murphy says Cardiff City need to be more ruthless, while remaining relaxed about their …

Zan Vipotnik: Vitor Matos urges Swansea striker to last season’s form

Vipotnik scored 23 league goals last term, a haul which prompted Hull City to offer …

Swansea man who ‘should be dead’ reunites with teacher who changed his life

Sam’s reunion comes after Foster Wales launched a pilot across 37 schools in Swansea and …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime